Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:25 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Wel, rydym wedi dweud yn eglur iawn na fyddem yn cynyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y tymor Seneddol ar ei hyd, ac rydym wedi cadw at hynny. Ond rwy'n credu mai gwaith i bob plaid, mewn gwirionedd, yw nodi ei bwriadau ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru cyn yr etholiadau nesaf i'r Senedd er mwyn i'r cyhoedd allu barnu'r hyn sy'n gymwys yn eu golwg nhw.