Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:19 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Rwy'n credu mai un o gryfderau gwirioneddol ein dull ni o weithredu yma yng Nghymru yw'r timau lleol iawn hynny o bobl sy'n gwneud y gwaith olrhain. Gallaf ddweud fy mod i wedi cael nifer o drafodaethau gyda'r Gweinidog Iechyd a chyda swyddogion dros yr wythnos ddiwethaf, gan edrych ar y cyllid y bydd ei angen i gynyddu maint y gweithlu hwnnw, a thrafod beth ddylai'r maint craidd fod, a sut y gallwn ni sicrhau bod capasiti ymchwydd i'r gweithlu hwnnw hefyd, ac fe fydd arian ychwanegol yn rhan o hynny. Byddaf yn hapus i roi'r datganiad hwnnw cyn gynted ag y caiff y manylion eu cadarnhau.