Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:07 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 1:07, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog cyllid ddatganiad ar ei hasesiad diweddaraf o'r swm o refeniw treth y byddwn ni'n ei golli oherwydd ymestyn a chaethiwo'r cyfnod clo i raddau mwy helaeth yng Nghymru nag a wnaeth Llywodraeth y DU yn Lloegr, ac a wnaiff hi egluro pa gyfradd o warchodaeth drosiannol sydd gennym dros refeniw i Drysorlys Cymru o'r dreth trafodiadau tir a chyfraddau Cymru o dreth incwm? Ac a wnaiff hi roi cyngor hefyd ynghylch a oes yna unrhyw risg y gallem gael ein dal gan y rheol 'dim niwed' o ran refeniw'r DU o dreth incwm a godir yng Nghymru os bydd penderfyniadau ei Llywodraeth hi i gadw at y cyfnod clo yn effeithio'n sylweddol ar hyn?