Grantiau Rhyddhad Ardrethi Busnes

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:26 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:26, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £1.7 biliwn i helpu busnesau a sefydliadau dielw yng Nghymru yn ystod yr achosion o'r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys dros £875 miliwn ar gyfer grantiau sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig. Fe fydd pob sefydliad dielw sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster yn cael grant o naill ai £10,000 neu £25,000.