4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu grantiau rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector di-elw yn ystod pandemig Covid-19? OQ55353
Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £1.7 biliwn i helpu busnesau a sefydliadau dielw yng Nghymru yn ystod yr achosion o'r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys dros £875 miliwn ar gyfer grantiau sy'n gysylltiedig ag ardrethi annomestig. Fe fydd pob sefydliad dielw sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster yn cael grant o naill ai £10,000 neu £25,000.
Diolch am eich ateb, Gweinidog. Os caf i, efallai, roi enghraifft ichi o ddarparwr gofal plant dielw ym Machynlleth yn fy etholaeth i, gyda gwerth ardrethol o £12,000. Maen nhw wedi cysylltu â mi i ddweud bod y mwyafrif helaeth o'u hincwm yn deillio o godi ffioedd am blant sy'n derbyn gofal yn hytrach na rhoddion. Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n gymwys am y grant rhyddhad ardrethi busnes—ar y gyfradd £10,000 nac ar £25,000—gan eu bod nhw wedi cael rhyddhad ardrethi o 100 y cant fel elusen.
Mae'n ymddangos bod Busnes Cymru'n awgrymu y dylai sefydliadau dielw a darparwyr gofal plant sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach o 100 y cant gael y grant £10,000. Felly, mae rhywfaint o ddryswch, yn fy marn i, o ran pam mae'r busnes arbennig hwn wedi cael ei eithrio. A wnewch chi roi rhywfaint o eglurhad heddiw ynglŷn â sut y dylai'r cynllun grant rhyddhad ardrethi busnes weithio i'r sector elusennol a dielw?
Fel y dywedais, maen nhw wedi eu cynnwys yn ein cynllun grantiau ynglŷn ag ardrethi annomestig. Felly, efallai yr hoffech ysgrifennu ataf am yr achos penodol hwnnw, a gallaf innau edrych ar y mater i wneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cyngor cywir.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae hynny'n dod â'n sesiwn foreol ni i ben. Fe ddown ni at ein gilydd eto am 14:15, ac a gaf i atgoffa'r Aelodau fod yn rhaid iddyn nhw fod yn bresennol yn y sesiwn er mwyn i mi allu galw arnyn nhw i ofyn eu cwestiynau. Felly, gwnewch yn siŵr bod eich camerâu chi heb eu diffodd os ydych chi yn y sesiwn, oherwydd fel arall ni allaf weld eich bod chi yno i alw arnoch chi.
Felly, gwnaf i weld chi i gyd am chwarter wedi dau.
Fe'ch gwelaf chi am 14:15.