Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 12:52 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Fe fyddwn i'n hapus i wneud hynny. Y tro diwethaf imi drafod y materion arbennig hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys oedd dydd Gwener diwethaf. Ac fe ddywedodd ef y bydd datganiad economaidd yr haf yn cael ei gyhoeddi yn fuan, ac fe gawn ni drafodaeth bellach ar ôl hynny o ran yr hyblygrwydd cyllidol yr ydym ni wedi gofyn amdano. Ac i grynhoi, ar gyfer pobl nad ydynt yn gyfarwydd â'r hyblygrwydd hwnnw, rydym yn chwilio am y gallu i dynnu mwy o arian o gronfa wrth gefn Cymru, i fenthyca mwy, i dynnu'r terfyn ar fenthyca, a hefyd i allu newid cyfalaf yn refeniw Fe fydd rhywfaint o hyn, a pha mor bell yr ydym ni'n dymuno mynd â phethau, yn dibynnu, i raddau helaeth, ar y datganiad a wna'r Canghellor yr wythnos nesaf, ac fe fydd gennym ddealltwriaeth well o'r arian y gallwn ni ei ddisgwyl i'n cadw ni am weddill y flwyddyn ariannol hon.