Cyhoeddiadau Cymraeg

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:16, 1 Gorffennaf 2020

Diolch yn fawr iawn, Mike, am y cwestiwn yn Gymraeg, ac mi atebaf i yn yr un modd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyhoeddiadau Cymraeg lleol wrth sicrhau bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth a newyddion hanfodol yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru a rhanddeiliaid eraill i gefnogi cyhoeddiadau yn ystod y cyfnod hwn.