5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddarparu diweddariad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyhoeddiadau Cymraeg lleol yn ystod y pandemig? OQ55349
Gweinidog, mae angen ichi ddad-dawelu eich ffôn. Ni allaf eich clywed chi. Sori, mae angen i chi droi eich meicroffon ymlaen. Na, rhowch gynnig arall arni. Na, sori, nid ydym ni'n clywed y Gweinidog.
A yw hynny'n iawn nawr?
Mae hynny'n iawn. Diolch yn fawr, Gweinidog. Mae'n ddrwg gennyf i am hynny.
Sori, y cebl estyn wnaeth achosi trafferth i mi.
Oh, iawn. Dyna ni.
Diolch yn fawr iawn, Mike, am y cwestiwn yn Gymraeg, ac mi atebaf i yn yr un modd. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyhoeddiadau Cymraeg lleol wrth sicrhau bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth a newyddion hanfodol yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda Chyngor Llyfrau Cymru a rhanddeiliaid eraill i gefnogi cyhoeddiadau yn ystod y cyfnod hwn.
Diolch, Gweinidog. Pwysigrwydd cyhoeddiadau cyfrwng Cymraeg lleol—mae Julie James, Rebecca Evans a minnau'n hysbysebu'n effeithiol yn ein cyhoeddiad Cymraeg misol Wilia. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau parhad cyhoeddiadau o'r fath?
Wel, mae Wilia yn un o rwydwaith, os ydw i'n cofio'n iawn, o 52 o bapurau bro trwy Gymru sydd yn chwarae rhan allweddol i gysylltu cymunedau, yn enwedig mewn sefyllfa fel hon o argyfwng iechyd cyhoeddus. Rydyn ni'n eu cefnogi nhw drwy Mentrau Iaith Cymru, ac fel y dywedais i ar y dechrau, mae 52 o bapurau bro ac mae yna grant o £97,000 wedi cael ei gyllido i dargedu papurau bro yn y flwyddyn ariannol 2020-1.
Ddirprwy Weinidog, mae Hwb wedi bod yn elfen sylfaenol o addysg gartref yn ystod y tri mis diwethaf. Rwyf hyd yn oed yn dal i gael gohebiaeth gan rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg ac sydd ddim yn teimlo eu bod nhw wedi bod mewn sefyllfa i helpu eu plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Fydd e'n bosib i chi siarad â'r Gweinidog Addysg am sut y gallai copïau o bapurau bro gael eu lanlwytho, efallai, fel adnoddau addysg ar gyfer rhieni a'u plant? Mae yna esiamplau da o sut mae geiriau ysgrifenedig a llafar yn swnio yn y fro ac, wrth gwrs, maen nhw'n mynd i fod yn adnoddau defnyddiol iawn i bob ysgol pan fyddant yn ystyried y cwricwlwm lleol newydd.
Wel, mae'r papurau bro bellach—o leiaf eu hanner nhw, rydw i'n credu—yn cael eu cyhoeddi yn ddigidol, ac felly maen nhw ar gael ar-lein fel cyfrwng y gall pobl ei ddefnyddio. Fe fuaswn i'n annog y papurau bro i fanteisio ar gefnogaeth y cyngor llyfrau—ac felly trwy'r cyngor llyfrau, Llywodraeth Cymru—er mwyn galluogi mwy o bobl i allu manteisio ar ddeunydd digidol Cymraeg lleol. Diolch.
Diolch. Mae cwestiwn 2 i'w ateb eto gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Cwestiwn 2—Russell George.