Darlledu yng Nghymru

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:45, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r cwestiwn yna yn cynhesu fy nghalon, oherwydd yn y gorffennol pell, roeddwn yn gyfarwyddwr un o'r gorsafoedd cymunedol hyn, o'r enw Champion FM, yn y gogledd, ac roedd yn orsaf radio lwyddiannus iawn, sy'n dal i weithredu. Rwyf wedi dilyn, gyda pheth pryder, yr hyn sydd wedi digwydd o ran perchenogaeth a rheolaeth rhai o'n gorsafoedd llai. A gallaf weld bod dadl gref iawn o blaid sicrhau bod cefnogaeth wastad ar gael gennym ni, y gellir ei chyfeirio ar hyd braich at y diwydiant radio cymunedol. Ac rwy'n hapus iawn i edrych eto ar hyn i weld a oes cymorth mwy uniongyrchol y gallwn ei roi. Ond mae'n rhaid iddo fod ar hyd braich, yn fy marn i. Ni ddylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gorsafoedd radio, hyd yn oed pe bai gennym yr arian i wneud hynny.