Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch, Dirprwy Weinidog, rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar y cwestiynau a'r atebion gan bobl eraill ar y pwnc hwn, a'r rheswm yr oeddwn i eisiau ymuno oedd i ddweud bod nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi a oedd yn ddig iawn eu bod wedi clywed y negeseuon anghywir ar y rhaglen This Morning ar deledu'r DU ac roeddent yn awyddus iawn i ffonio neu anfon neges destun i'w cywiro ynglŷn â beth oedd y sefyllfa yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu bod gwell tystiolaeth bod neges Llywodraeth Cymru yn cael ei datgan yn glir yng Nghymru na chlywed am etholwyr yn ffonio This Morning i ddweud wrthyn nhw bod eu neges yn anghywir mewn gwirionedd. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, Dirprwy Weinidog, fod hynny'n dangos bod neges Llywodraeth Cymru yn glir iawn yma yng Nghymru, hyd yn oed os oes anawsterau wrth gyfleu'r neges gywir i gyfryngau'r DU?