Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Wel, er bod busnesau gwely a brecwast bach yn un o brif gynheiliaid economïau twristiaeth lleol ar draws y gogledd, nid ydynt yn gymwys ar gyfer grant busnes £10,000 Llywodraeth Cymru. Pan godais y mater hwn gyda Gweinidog yr economi, cyfeiriodd at y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer ail gam y gronfa cadernid economaidd. Pan agorodd, roeddent yn anghymwys. Pan holais ef am hyn, dywedodd y byddai'n rhaid iddo ddeall pam. Felly, ysgrifennais ato gyda'u tystiolaeth. Yn ei ateb, fel chithau, dywedodd mai'r pecyn cymorth yng Nghymru yw'r mwyaf cynhwysfawr a hael yn y DU, ond mae grantiau ar gael i weithredwyr gwely a brecwast yn Lloegr a'r Alban nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth grant COVID-19, ond gwrthodwyd grantiau cyfatebol i weithredwyr yng Nghymru. Felly, beth yw eich neges i weithredwyr busnesau gwely a brecwast dilys sydd wedi dweud wrthyf fod eu harian wedi dod i ben erbyn hyn ac na allant barhau mwyach? Gobeithio ei fod yn un o obaith.