Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:40, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn yna Mark. Ein pecyn cymorth i'r economi ymwelwyr a'r diwydiant twristiaeth yw'r mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ac, ar 5 Mehefin, roedd dros £10 miliwn wedi'i ddyfarnu i fentrau twristiaeth drwy ein cronfa cadernid economaidd. Amcangyfrifwn fod hyn wedi diogelu dros 4,500 o weithwyr yn y sector. Ac rydym ni bellach yng ngham 2 y Gronfa, sy'n agored, a fydd yn cynorthwyo busnesau twristiaeth ychwanegol sy'n defnyddio'r cyllid.