Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr iawn Vikki am roi'r enghraifft yna inni. Ni welais y rhaglen benodol honno, ond yn sicr, byddaf yn sicrhau bod y bobl yn y maes cyfathrebu sy'n gweithio'n galed iawn i sicrhau bod neges Llywodraeth Cymru yn cael ei throsglwyddo'n briodol i bobl Cymru yn gallu sicrhau y caiff y neges honno hefyd ei throsglwyddo'n briodol i orsafoedd a dderbynnir yng Nghymru o'r tu allan, lle nad oes gan y newyddiadurwyr na'r cyflwynwyr ddealltwriaeth yn aml o gymhlethdod diddorol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig.