Cysylltiadau Masnach yn y Dyfodol

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:57, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau yr ydych yn eu gwneud ynglŷn â bod y concordat mewn grym i bob pwrpas oherwydd sefyllfaoedd unigolion, ond onid yw hi'n bwysig inni fod y concordat hwnnw'n cael ei lofnodi.

Mae gennyf bryderon mawr ynghylch rhai o'r cytundebau hyn. Er enghraifft, yn y trafodaethau rhwng Japan a'r DU, mae'r Japaneaid eisoes wedi dweud eu bod eisiau dyddiad cwblhau o chwe wythnos. Mae hynny'n rhoi llawer o bwysau ar y broses, a sut allwn ni fod yn sicr bod llais Cymru a buddiannau dinasyddion Cymru, mewn cyn lleied o amser, yn cael eu cyflawni? Ac a ydych chi, felly, yn yr ystafell yn ystod trafodaethau? A ydynt yn adrodd yn ôl i chi? Sut allwn ni gael y sicrwydd hwnnw, a sut allwn ni graffu ar y cytundeb hwnnw?