Darlledu yng Nghymru

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:42, 1 Gorffennaf 2020

Gweinidog, yn ystod y pandemig cyfredol hwn, mae cywirdeb darlledu yn gyson wedi ein siomi ni yma yng Nghymru. Mae pobl yn credu nad yw'r sefyllfa efo rheolau gwahanol Cymru yn cael digon o amlygrwydd gan ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus Prydeinig, felly. Rydym ni yma yng Nghymru yn cael ein bwydo yn aml efo gwallau beunyddiol neu wybodaeth anghyflawn ynglŷn â'r gwahanol reolau COVID yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr, er enghraifft. Nawr, fel rydych chi wedi ei ddweud, ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal ymchwiliad i ddatganoli darlledu i'r Senedd yma. Ond, yn y tymor byr, Dirprwy Weinidog, gyda'r pandemig yma yn dal ar waith, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Prydeinig, y cyfryngau ehangach, ac, yn wir, Llywodraeth San Steffan, i sicrhau bod y negeseuon i bobl Cymru yn glir ac yn gywir?