Darlledu yng Nghymru

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:44, 1 Gorffennaf 2020

Mae hwn yn fater i Ofcom, yn bendant, fel y corff rheoleiddio. Ac eto, gaf i ofyn am enghreifftiau? Bob tro rydym ni'n dod ar draws enghreifftiau fel Gweinidogion, neu fel swyddogion o'r Llywodraeth, rydym ni'n eu codi nhw'n uniongyrchol. Ond nid yng Nghymru y mae'r broblem. Mae'r broblem yn yr annealltwriaeth, mae gen i ofn, o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, yr annealltwriaeth o ystyr ac effaith datganoli gan ddarlledwyr sydd yn darlledu i Gymru o Loegr.