Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Wrth gwrs, dwi yn cwrdd â'r Gweinidog Addysg yn aml i drafod materion sy'n ymwneud ag addysg a'r Gymraeg, a dwi'n gwybod ei bod hi'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd sicrhau bod yna gyfle gan blant i ymarfer eu Cymraeg nhw yn ystod y cyfnod anodd yma. Ond jest i ddweud bod canllawiau eisoes wedi mynd—nid yn unig o'r Llywodraeth, ond rŷn ni wedi gofyn i brifathrawon i ddosbarthu yr adnoddau hynny i'r plant tu fewn yr ysgolion yna. Dwi yn gwybod, er enghraifft, fy mod i fel rhiant wedi cael gwybodaeth trwy'r ysgol ynglŷn â pha adnoddau sydd ar gael, felly mae'n dda i wybod bod y system yna yn gweithio, ac felly bod y cyfarwyddyd rŷn ni'n ei roi wedi cyrraedd y rhieni, ac felly dwi yn obeithiol y bydd hynny yn datblygu. Ond jest i ddweud, wrth gwrs, dwi'n meddwl y bydd angen i'r athrawon i gyd ailystyried sut maen nhw yn dysgu yn rhithiol, ac i weld pa adnoddau sydd ar gael iddyn nhw. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid inni ystyried hwnna yn Gymraeg ac yn Saesneg hefyd.