Cysylltiadau Masnach yn y Dyfodol

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:52, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gweinidog. Gyda'r ansicrwydd ynghylch masnach y DU, mae'n hanfodol bod gan fusnesau yng Nghymru leisiau cryf yn eu hyrwyddo. Mae cwmnïau fel bragdy Tiny Rebel, yn fy etholaeth i, wedi gwneud gwaith gwych yn ehangu brand Cymru yn fyd-eang, ac mae cwrw fel Cwtch a Clwb Tropica yn cael eu gwerthu ledled y byd. Gyda'r ansicrwydd economaidd ychwanegol oherwydd COVID-19, ni allwn ni fforddio i fusnesau Cymru wynebu pwysau ychwanegol tariffau uwch. Drwy gydol y cyfnod hwn, mae busnesau'n addasu i amgylchiadau. Pa gefnogaeth all Llywodraeth Cymru ei rhoi i'r busnesau hynny yr oedd ganddynt rwydweithiau masnach gyda gwledydd eraill? A sut y gallwch chi gefnogi ac annog busnesau sy'n gobeithio allforio cynnyrch am y tro cyntaf, i sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn parhau i ffynnu yn y cyfnod hynod o anodd hwn?