Part of 6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Ers 1 Mehefin, mae pobl ifanc a fydd yn 16 neu'n 17 oed pan gynhelir etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf wedi cael cofrestru i bleidleisio. Mae'r Comisiwn wedi creu adnoddau addysg i helpu pobl ifanc i ddeall sut mae ein democratiaeth yn gweithio. Roedd y rhain ar gael ar Hwb—llwyfan dysgu ac addysgu digidol Llywodraeth Cymru—cyn dechrau'r cyfnod cofrestru ar 1 Mehefin, a bydd adnoddau ychwanegol sy'n briodol i'w defnyddio mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys ar gyfer addysg gartref, yn cael eu hychwanegu'n fuan. Mae'r Comisiwn wedi ysgrifennu at ysgolion i gynnig y sesiynau allgymorth arferol ar-lein, gan sicrhau bod y tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc yn parhau i gynnig ymgysylltiad uniongyrchol yn ystod y cyfnod pandemig yma.