Ymestyn Masnachfraint Etholiadau'r Senedd

Part of 6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:03, 1 Gorffennaf 2020

Wel, mae hwnna'n bwynt ardderchog, ac, wrth gwrs, mi fyddwn ni eisiau cadw golwg ar lefel y cofrestru gan bobl ifanc. Mae hyn yn gyfnod heriol i bawb i wneud y gwaith hyn, ac yn enwedig i awdurdodau lleol, wrth gwrs, sy'n gyfrifol am y gwaith cofrestru yma'n ymarferol. Felly, rydym ni'n ceisio rhoi cymaint o hyblygrwydd i lywodraeth leol ag sy'n bosib yn yr amser sydd gyda ni ar hyn o bryd, ond, wrth i'r hydref agosáu a'r gaeaf, fe fydd yn rhaid i ni edrych ar y niferoedd sydd eisoes wedi cofrestru a gweld sut mae'r patrymau hynna'n datblygu. Lle mae angen gwneud gwaith pellach, mi fyddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol a llywodraeth leol i sicrhau bod y gwaith pellach yna'n cael ei wneud fel bod pob person ifanc yng Nghymru yn ymwybodol o'r hawl newydd fydd gyda nhw'r flwyddyn nesaf i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru.