Part of 6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Mae dyletswydd ar yr Aelodau unigol i gadw staff ac ymwelwyr yn ddiogel yn eu swyddfeydd etholaethol a rhanbarthol, a nhw sy'n gyfrifol am benderfynu a ydynt wedi cymryd y camau priodol. Mae'r Comisiwn yn paratoi y dogfennau i ategu cyngor Llywodraeth Cymru mewn ffordd sydd wedi'i chynllunio i gynorthwyo'r Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau fel cyflogwyr ac fel rheolwyr safle.