Swyddfeydd Etholaethol

Part of 6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:13, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais, yr Aelod etholedig sy'n gyfrifol am swyddfeydd etholaethol a swyddfeydd rhanbarthol, ac mae'r Aelodau etholedig, wrth gwrs, yn gyfrifol am faterion staff eu hunain hefyd. Byddwn yn darparu'r canllawiau sy'n ofynnol ac y gofynnir amdanynt, ond mater i Aelodau unigol yw penderfynu pryd y mae'n briodol ac yn ddiogel i wneud unrhyw waith y maen nhw'n dymuno'i wneud o'u swyddfeydd. Rydym ni i gyd, wrth gwrs, yn dilyn canllawiau cyffredinol gweithio o gartref os yw'n bosibl gwneud hynny, ac mae'r mwyafrif helaeth iawn o'n holl staff, fel Aelodau unigol ac fel staff y Comisiwn, wedi gallu gweithio'n effeithiol o gartref hyd yma. Ond os yw'r Aelodau'n teimlo bod angen mwy o arweiniad i'r Aelodau ynghylch ailagor, hyd yn oed os ydynt yn credu bod angen i hynny fod ar gael i'r Aelodau fesul sefyllfa unigol, yna, os gwelwch yn dda, Aelodau, cysylltwch â'r Comisiwn a byddwn yn darparu'r arweiniad hwnnw ar gyfer sefyllfaoedd unigol. Ond, dywedaf eto mai mater i Aelodau unigol yw rheolaeth a gweithle'r Swyddfa ranbarthol ac etholaethol. Hefyd, o ran yr ateb ar gostau, wrth gwrs, bydd rhai elfennau'n dod o dan y Comisiwn a'i gyllideb, ond bydd llawer iawn o agweddau ar y costau hyn y bydd unrhyw Aelod yn dymuno eu hawlio yn rhan o gyfrifoldeb y bwrdd taliadau.