8. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Argyfwng Hinsawdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:40, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Ym mis Ebrill, gwnes ymrwymiad i ddarparu datganiad pellach i amlinellu sut y byddwn yn gwneud mwy ac yn gweithredu ynghynt i sicrhau Cymru ddi-garbon er mwyn darparu ffyniant a chydraddoldeb, yn ogystal ag aer, dŵr a thir glân. Byddwn yn cyflawni hyn drwy gryfhau cydnerthedd ein hamgylcheddau naturiol ac adeiledig i wrthsefyll effaith hinsawdd sy'n newid a thrwy alluogi trawsnewidiad economaidd a fydd yn disodli ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, gan greu diwydiannau a swyddi'r dyfodol.

Rydym ni wedi dechrau gweithio i greu coedwig genedlaethol i Gymru, gan lansio ein cronfa coetiroedd cymunedol, sy'n gynnydd pedwarplyg yn y gyllideb ar gyfer creu coetiroedd. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â sector ffermio Cymru er mwyn deall sut y gallwn ni weithio gyda nhw i ehangu eu swyddogaeth o ran cynnal a chynyddu storfeydd carbon Cymru.

Rydym ni ar y trywydd cywir o hyd i gyflawni ein nod o fuddsoddi £350 miliwn i ymdrin â pherygl llifogydd ac erydu arfordirol. Ym mis Ebrill cyhoeddwyd rhaglen fuddsoddi £60 miliwn ar gyfer 2020-1, yn ogystal â £14 miliwn o arian i atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd a'r seilwaith trafnidiaeth a ddifrodwyd yn ystod y stormydd dwys a effeithiodd ar filoedd o bobl ledled Cymru yn gynharach eleni. Yn ystod y pandemig, rydym ni hefyd wedi sefydlu rhaglen newydd i fynd i'r afael â'r perygl y mae tomennydd glo yn eu peri i'n cymunedau.

Mae'r modd yr ydym ni wedi gweithredu ynglŷn â thlodi tanwydd wedi helpu miloedd o gartrefi i wella eu hiechyd a chynnig amddiffyniad rhag costau ynni uwch drwy fuddsoddi mwy na £300 miliwn. Er bod pandemig COVID-19 wedi amharu ar y gwaith o osod mesurau effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi pobl, rwy'n bwriadu darparu datganiad pellach ym mis Medi i gyhoeddi cynlluniau a dulliau cyflawni newydd i wireddu hyd yn oed mwy o fuddion ar gyfer cydraddoldeb, ar gyfer allyriadau, ar gyfer cadwyni cyflenwi a swyddi lleol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi'n uniongyrchol drwy'r rhaglen tai arloesol, a gynlluniwyd i brofi dulliau newydd o adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy sy'n bodloni'r safonau amgylcheddol uchaf. Mae'r 1,400 o gartrefi sy'n cael eu darparu yn nhair blynedd gyntaf y rhaglen yn cynnwys 76 yn Rhuthun, a'r gobaith yw mai hwn fydd y datblygiad cyntaf yn y DU i fod â gwerth net di-garbon ar hyd ei oes, ac fe gaiff y tai eu hadeiladu gan ddefnyddio coed o Gymru. Caiff mwy na 600 o gartrefi addas at y dyfodol eu hadeiladu yn y flwyddyn i ddod.

Yn ystod y pandemig, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cerdded a beicio, a chynnydd sylweddol iawn mewn gweithio o gartref, sydd wedi lleihau allyriadau'n sylweddol. Er mwyn cefnogi cymunedau i barhau ag arferion teithio cadarnhaol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £15 miliwn o arian ychwanegol i awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn iddynt aildrefnu ffyrdd, gan adeiladu ar y buddsoddiad mwyaf erioed mewn teithio llesol y llynedd.

Bu Cymru ar flaen y gad yn y DU ac yn fyd-eang yn y newid i economi gylchol. Eleni rydym ni wedi ymgynghori ar ein strategaeth i sicrhau dyfodol diwastraff ac rydym ni wedi ehangu'r gronfa economi gylchol ar gyfer busnesau. Yn ystod y gyfres gyntaf o grantiau, gwelwyd buddsoddiad mewn busnesau yng Nghymru i ddargyfeirio 6,000 o dunelli o wastraff o safleoedd tirlenwi, gan arbed mwy na 4,000 o dunelli o garbon deuocsid.

Mae Cymru'n gartref i ymchwil sy'n arwain y byd o ran mynd i'r afael â'r allyriadau o ddiwydiannau carbon-ddwys, gan gynnwys dur ac awyrennau. Gan weithio gyda'n partneriaethau sgiliau rhanbarthol, rydym yn gweithio i sicrhau bod gan bob rhanbarth yng Nghymru y sgiliau sydd eu hangen i fabwysiadu ac ehangu technoleg carbon isel sy'n dod i'r amlwg.

Mewn ymateb i'r pandemig, mae Cymru wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y DU. Fodd bynnag, rydym ni wedi gwneud y cymorth hwn yn amodol ar gwmnïau yn ymuno â chontract economaidd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ymrwymiad i ddatgarboneiddio.

Mae arweinyddiaeth y sector cyhoeddus yn y maes hwn yn hanfodol. Byddaf yn cyhoeddi canllaw adrodd di-garbon net ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru i'n helpu i ddeall ôl-troed allyriadau cyrff cyhoeddus Cymru, nodi ffynonellau allyriadau sy'n cael blaenoriaeth a monitro cynnydd tuag at gyrraedd ein nod o gael sector cyhoeddus sy'n niwtral o ran carbon erbyn 2030. Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £96 miliwn mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus, a fydd, dros eu hoes, yn sicrhau miliwn o dunelli o arbedion carbon a thros £280 miliwn o arbedion ariannol. Mae cyhoeddi adroddiad blynyddol gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru heddiw yn dangos ein cynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi ein polisi i'w gwneud hi'n ofynnol i bob gosodiad ynni newydd gynnwys elfen o berchnogaeth leol i rannu manteision ein trawsnewidiad ynni yn ehangach. Yn 2018, llwyddasom i gyrraedd capasiti o 780 MW o ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol, ac rydym yn dal ar y trywydd iawn i gyflawni 1 GW erbyn 2030.

Ynghyd â'n cefnogaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy, amcan polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi parhau i gloddio tanwydd ffosil yn ei holl ffurfiau. Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar ein polisi glo drafft i gefnogi trawsnewid cyfrifol. Wrth inni roi terfyn ar ein dibyniaeth ar lo, yr adeiladwyd economi fodern Cymru arno, rydym yn edrych ar y cyfraniad y gall Cymru ei wneud i'r chwyldro ynni morol. Rydym ni wedi buddsoddi mewn 10 o brosiectau ynni'r môr, sydd wedi sicrhau mwy na £100 miliwn o fuddsoddiad Ewropeaidd, yn y gogledd a'r de.

Rwyf wedi disgrifio rhywfaint o'r cynnydd pwysig sy'n cael ei wneud yng Nghymru, ac yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn cyhoeddi cynllun ymgysylltu Llywodraeth Cymru, sy'n amlinellu sut y byddwn yn ymgysylltu â phob cymuned a diwydiant yng Nghymru i gryfhau ein hymdrechion ar y cyd. Bydd hyn yn cynnwys ein cynlluniau ar gyfer wythnos hinsawdd ddigidol i Gymru ym mis Tachwedd er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu ein cynllun carbon isel nesaf ar gyfer Cymru gyfan ar gyfer 2021 i 2026.

Rwy'n gobeithio y bydd holl Aelodau'r Senedd yn annog pob corff cyhoeddus, busnes a phob cymuned yng Nghymru i fod yn rhan o greu cynllun Cymru gyfan i oresgyn yr argyfwng hinsawdd, gan gefnogi ein heconomi i ymadfer ar ôl effaith COVID-19, gan greu diwydiannau a swyddi newydd, er mwyn creu Cymru lewyrchus, iachach a mwy cyfartal. Diolch.