Cwestiynau i Comisiwn y Senedd

QNR – Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

Pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i gynyddu cymorth digidol i ganiatáu i staff y Comisiwn ehangu eu gallu i weithio gartref a gweithio o bell?

Member of the Senedd:

Mae bron holl staff y Comisiwn wedi bod yn gweithio gartref ers i'r cyfyngiadau symud gael eu rhoi ar waith ddiwedd mis Mawrth, a dim ond nifer gyfyngedig o staff hanfodol—diogelwch a chynnal a chadw—sy'n gweithio'n rheolaidd ar y safle. Mae strategaeth technoleg gwybodaeth a chyfathrebu'r Comisiwn, sydd wedi'i rhoi ar waith dros y tair blynedd diwethaf, yn golygu bod staff yn awr yn defnyddio Office365 a gliniaduron yn lle cyfrifiaduron bwrdd gwaith, ac mae hynny wedi bod o fantais sylweddol wrth i bawb weithio o bell. Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau, rydym wedi bod yn holi staff i ddeall sut y gallwn barhau i'w cynorthwyo wrth iddynt weithio gartref. Byddwn yn defnyddio popeth rydym wedi'i ddysgu wrth ystyried sut y byddai'n fuddiol addasu'r trefniadau gweithio presennol yn y dyfodol, gan gynnwys creu mwy o gyfleoedd i weithio gartref ac i weithio'n rhithwir.