Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf am amlinellu'r camau nesaf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu cynigion ar gyfer dyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth yng Nghymru. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Amlinellai gynigion ar gyfer system newydd o gymorth ariannol i ffermwyr, ac roedd hefyd yn argymell y dylid rheoli tir yn gynaliadwy fel y fframwaith polisi ar gyfer darparu'r gefnogaeth honno.