7. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ffermio Cynaliadwy: dyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth

– Senedd Cymru am 4:09 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:09, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ddyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf am amlinellu'r camau nesaf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu cynigion ar gyfer dyfodol y gefnogaeth i amaethyddiaeth yng Nghymru. Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Amlinellai gynigion ar gyfer system newydd o gymorth ariannol i ffermwyr, ac roedd hefyd yn argymell y dylid rheoli tir yn gynaliadwy fel y fframwaith polisi ar gyfer darparu'r gefnogaeth honno.    

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:10, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Cyflwynodd yr ymgynghoriad achos dros gyllid yn y dyfodol i gefnogi a gwobrwyo ffermwyr sy'n gweithredu systemau ffermio cynaliadwy mewn byd lle mae cytundebau masnach yn y dyfodol yn debygol o agor ein marchnadoedd i fwy o gystadleuaeth, gan ddangos cynaliadwyedd bwyd a gynhyrchir ar ffermydd Cymru, gyda safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel yn debygol o fod yn gynyddol bwysig. Byddai'r fframwaith hefyd yn caniatáu inni gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a chyflawni yn erbyn ein hymrwymiadau cyfiawnder amgylcheddol.    

Cawsom dros 3,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Hoffwn ddiolch eto i'r rhai a gymerodd amser i'w ddarllen, ei ystyried ac ymateb iddo. Ym mis Mai, cyhoeddais ddadansoddiad annibynnol o'r ymatebion, a heddiw, rwy'n cyhoeddi'r ymateb polisi i'r ymgynghoriad. Mae'r ystod o safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion yn adlewyrchu cwmpas eang y cynigion yn yr ymgynghoriad. Ar ôl ystyried y rhain yn ofalus a'r ystod o safbwyntiau a fynegwyd yn ystod y broses, rwy'n parhau i gynnig system o gefnogaeth i amaethyddiaeth yn y dyfodol wedi'i chynllunio o amgylch y fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy. 

Codwyd cystadleurwydd y sector ffermio yng Nghymru fel mater allweddol mewn llawer o ymatebion, gyda rhai’n dadlau y byddai canolbwyntio ar ganlyniadau amgylcheddol yn niweidio hyfywedd ariannol ffermio yng Nghymru. Byddai'r dull arfaethedig yn darparu llif incwm pwysig i ffermwyr, gan gydnabod y gwaith pwysig a wnânt yn cyflawni canlyniadau amgylcheddol a’u gwobrwyo amdanynt. Yn ogystal, rydym yn ceisio cryfhau cystadleurwydd hirdymor y sector trwy well cyngor a chefnogaeth i fusnesau. Bydd hyn yn helpu i gefnogi ffermwyr yn y realiti economaidd newydd yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. Mae cystadleurwydd ffermio, cynhyrchu bwyd a gwytnwch amgylcheddol gwell yn agendâu sy’n ategu ei gilydd ac mae ein cynigion yn glir yn hyn o beth. Bydd dull o reoli tir yn gynaliadwy yn caniatáu inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd, yn helpu i wyrdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth, yn sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid ac yn amddiffyn ein hadnoddau naturiol. Bydd bwyd a gynhyrchir gan ddefnyddio'r dull hwn yn gynaliadwy, ac yn diogelu’r cyflenwad bwyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

Yng ngoleuni hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i ddatblygu cynigion ar gyfer cynllun yn seiliedig ar y fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy. Archwilir ystod o opsiynau, a bydd pob un ohonynt yn cael eu barnu o ran cost, budd a chydymffurfiaeth â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016). I gefnogi datblygiad ein cynigion, rydym yn cynnal amryw o ddadansoddiadau economaidd i ddeall effaith symud o gynllun cymorth incwm yn seiliedig ar hawliau i gynllun gwirfoddol sy'n gwobrwyo am gynhyrchu canlyniadau. Rydym yn disgwyl allbwn o'r dadansoddiad hwn yr haf nesaf a byddaf yn sicrhau bod hwn ar gael i'r cyhoedd. 

Ni wneir unrhyw benderfyniad ar unrhyw gynllun yn y dyfodol cyn i mi ystyried canlyniadau'r dadansoddiad a’r holl ffactorau perthnasol eraill. Er mwyn galluogi ffermwyr i addasu eu model busnes presennol i ddarparu ar gyfer unrhyw newidiadau sy'n ofynnol o dan y cynllun arfaethedig, bydd yna gyfnod pontio. Cyn diwedd tymor y Senedd hon, byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn, a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil amaethyddiaeth (Cymru) yn ystod chweched tymor y Senedd. Rwy'n cynnig bod y Bil hwn yn strategol ei gwmpas, gan osod fframwaith o gefnogaeth a all ddarparu ar gyfer datblygu amaethyddiaeth a choedwigaeth yng Nghymru am y 15 i 20 mlynedd nesaf. Bydd y Bil yn galluogi ffermwyr i gael cymorth ariannol ac yn sicrhau y gellir cymhwyso system reoleiddio gydlynol a theg i'r sector amaethyddol. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i alluogi datblygiad parhaus y cynigion hyn ar gyfer y Papur Gwyn. 

Er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn cael eu cefnogi wedi i'r DU adael yr UE, rwy'n bwriadu lansio ymgynghoriad yn ddiweddarach yn yr haf i ofyn am safbwyntiau ar gadw a symleiddio rheolau ynghylch cefnogaeth amaethyddol i ffermwyr a'r economi wledig. Byddai'r gefnogaeth hon yn pontio'r bwlch rhwng cyllid cyfredol yr UE ac unrhyw gynllun newydd yn seiliedig ar reoli tir yn gynaliadwy. Mae oedi parhaus Llywodraeth y DU cyn cadarnhau lefel y cyllid newydd yn rhwystredig ac yn peri oedi i’n gallu i flaengynllunio’n fanwl. 

Yn fyd-eang, mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod heriol ac nid yw ffermwyr Cymru, wrth gwrs, wedi gallu dianc rhag yr amgylchiadau diweddar. Rwy'n falch o'r gwytnwch y maent wedi'i ddangos wrth ymateb i'r anawsterau hynny. Mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill yn chwarae rhan hanfodol yn lles economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Cymru. Byddwn yn parhau i'w cynorthwyo i addasu i newidiadau economaidd a gwleidyddol, yn ogystal ag effaith newid yn yr hinsawdd. 

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:15, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, diolch am eich datganiad. Heddiw, dechreuais fy niwrnod tua hanner awr wedi pedwar y bore yma, drwy lwytho ŵyn a mamogiaid i fynd i farchnad Rhaglan. A phan oeddwn yn darllen eich datganiad, rhaid i mi ddweud, pe bawn i'n siarad â ffermwyr ym marchnad Rhaglan heddiw nid wyf yn siŵr y byddwn yn teimlo rhithyn yn fwy o hyder yn yr hyn a allai fod yn dod i’n rhan i gymryd lle’r pecyn cymorth sydd ar gael i ffermwyr yma ar hyn o bryd yng Nghymru ar ôl ymgynghoriadau helaeth gan eich adran. Ac rwy'n derbyn bod amryw o leisiau'n dweud, 'Dylai fod saib oherwydd COVID' a gallwn ddeall hynny, oherwydd yn amlwg mae COVID wedi newid y dirwedd gyfan rydym yn gweithio ynddi ar hyn o bryd. Nid oes ond angen i chi fynd ar unrhyw wefan yn awr i weld bod £500 miliwn o arian ychwanegol yn dod i Lywodraeth Cymru oherwydd cyhoeddiadau gan y Canghellor heddiw. Mae'r rheini'n symiau digynsail o arian a fydd yn dod i goffrau Llywodraeth Cymru, a mater i'r Llywodraeth fydd penderfynu sut y bydd yn dyrannu'r arian hwnnw yn unol â hynny.

Ond rwy'n credu ei fod yn gwestiwn teg, o ystyried faint o egni y mae'r adran wedi'i losgi ar yr ymarfer penodol hwn, ac yn briodol felly, oherwydd mae’n agenda drawsnewid—beth yn union y gallwn ei weld wrth symud ymlaen a fydd yn rhoi hyder i ffermwyr y bydd y gefnogaeth yn dod drwodd i gynnal y cymunedau gwledig sy'n dibynnu ar yr arian hwn, gan fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo, yn oes y Senedd hon, i neilltuo'r arian hwnnw a'i drosglwyddo i Lywodraeth Cymru? Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r Prif Weinidog presennol wedi nodi y bydd yr arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i ffermydd, os daw yn yr amlen wledig honno. Ac felly, byddwn yn ddiolchgar am yr ateb hwnnw gennych chi fel y gall pobl ddeall y daith rydych chi'n mynd arni yn yr adran yn awr. 

Hoffwn ddeall hefyd faint yn fwy o bwyslais rydych chi'n ei roi ar elfen diogelwch y cyflenwad bwyd mewn unrhyw drafodaethau a dadleuon rydych chi'n eu cael yn fewnol, ar y sail ein bod wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd yn gynnar yn yr argyfwng COVID. Mae defnyddwyr, ein pleidleiswyr, ein hetholwyr yn rhoi llawer iawn o bwysau ar gynnyrch lleol a deall o ble y daw'r cynnyrch hwnnw, a byddwn yn awgrymu bod cynhyrchu bwyd yn nwydd cyhoeddus. A ydych chi'n uniaethu â hynny, yn hytrach na'i adael i fympwy’r farchnad yn unig? Mae'n nwydd cyhoeddus sydd angen elfen o gefnogaeth gan y Llywodraeth, a gwn ei fod yn bwynt rydych chi a minnau wedi ei drafod ar ein traed yn y fan hon dros amser. 

Hoffwn ddeall hefyd pa ddadansoddiad economaidd a gafwyd yn yr adran, yn enwedig gan y byddwch chi'n cyflwyno Papur Gwyn cyn i'r Cynulliad gael ei ddiddymu. Oherwydd, wrth gwrs, i'r gymysgedd hon mae'n rhaid inni gofio y cynhelir etholiad Cynulliad. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymladd â phob gewin i gadw Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Nid yw’n afresymol i mi ddweud y byddaf yn ymladd â phob gewin i wneud Paul Davies yn Brif Weinidog Cymru ar Lywodraeth Geidwadol. Ond rwy’n datgan yr hyn sy’n berffaith amlwg. Dim ond nodi’r hyn sy’n berffaith amlwg a wnaf, yn yr wyth i naw mis nesaf—[Torri ar draws.] O'r datganiad hwn, efallai y bydd gwaith paratoi gan y Llywodraeth benodol hon, ond bydd Llywodraeth newydd ar ôl mis Mai y flwyddyn nesaf, gan gymryd, yn amlwg, fod yr etholiadau'n mynd rhagddynt. Felly, mae'n bwysig deall pa ddadansoddiad economaidd a wneir gan yr adran ar unrhyw gynigion y mae'n eu cyflwyno. Ac a fyddwch chi'n sicrhau bod y dadansoddiad economaidd hwnnw ar gael, fel y gall pobl ddeall y meddylfryd sy’n sail i beth o'r gwaith sy'n digwydd?  

Rydych yn cyffwrdd â chynllun gwirfoddol yn eich datganiad. Rwy'n credu mai'r ffordd rydych chi'n ei eirio yw cynllun yn seiliedig ar hawliau i gynllun gwirfoddol. Wel, mae'r cynllun cyfredol yn gynllun gwirfoddol, oherwydd nid oes raid i chi ymuno ag ef, nid oes raid i chi wneud hynny. Felly, mae'n ymddangos eich bod yn rhoi pwyslais mawr ar y geiriad hwn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi cnawd ar esgyrn eich syniadau ynglŷn â hyn—pam y credwch y bydd yn fwy o ymdrech wirfoddol i ffermwr/tirfeddiannwr yng Nghymru ymuno â'ch cynllun nag y byddai o dan y cynllun presennol efallai, o ystyried eich bod chi'n rhoi cymaint o bwyslais arno yn eich araith? 

Rydych chi hefyd yn crybwyll cyfnod pontio o'r cynllun cyfredol i beth bynnag a ddaw yn ei le. Ac rwyf wedi cyffwrdd ar yr etholiad a fydd yn digwydd y flwyddyn nesaf. Nid oes gennym Fil amaethyddol yma yng Nghymru, er bod pwerau enfawr o fewn Bil amaethyddol y DU, ac yn amlwg fe wnaethoch chi, fel Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, geisio diogelu’r cyfnod pontio hwnnw. Yn y Bil hwnnw, mae modd i'r cynlluniau cyfredol fod ar waith tan 2024. A ydych chi'n rhagweld cynllun pontio a fyddai'n cymryd cyhyd â hynny ac felly, y byddech yn gallu defnyddio'r model cymorth cyfredol hyd nes yr amser hwnnw? Neu a ydych chi'n edrych ar gyfnod pontio llawer byrrach?

Fy mhwynt olaf, gyda goddefgarwch y Dirprwy Lywydd, fel y cofiaf o'r wythnos diwethaf—[Chwerthin.]—pob lwc i chi gyda’r gwaith o symleiddio canllawiau a rheolau’r polisi amaethyddol cyffredin sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rhaid i mi ddweud, fel Aelod ers tua 13 mlynedd, rwyf wedi sefyll yma lawer gwaith ac wedi clywed Gweinidogion o bob lliw a llun yn siarad am symleiddio rheolau a rheoliadau. Byddwn yn ddiolchgar iawn, a gallaf weld un o'ch rhagflaenwyr y tu ôl i chi yn y fan honno, a gallaf ei gofio’n sefyll yma droeon yn siarad am symleiddio—felly, hoffwn ddeall sut y credwch y gallwch wneud hyn, oherwydd bob lwc i chi gyda hynny, fel y dywedaf, rwy’n dymuno’n dda i chi ar hynny. Ond yn aml iawn, pan fydd Llywodraethau'n mynd ati i osod agenda symleiddio, mae'n arwain at lu o reoliadau a rheolau newydd sy'n cymhlethu'r darlun hyd yn oed yn fwy.  

A fy mhwynt olaf, os caf, yw bod gan eich adran sawl adroddiad gan yr archwilydd cyffredinol ynghylch y cynllun datblygu gwledig. Mae'r cynllun datblygu gwledig yn gynllun Cymreig unigryw a ddyfeisiwyd yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru. Yn seiliedig ar yr adroddiadau hynny ac ymdrechion yr adran, nid yw'n rhoi hyder i mi wrth symud ymlaen fod yr adran mewn sefyllfa dda i ddyfeisio'r mesurau newydd hyn ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru a chefn gwlad Cymru. Gobeithio yr ewch i'r afael â rhai o'r materion hynny yn eich ymateb byr i mi, i roi hyder i mi ac i eraill na ddylem gymryd fod popeth o’r cynllun datblygu gwledig yn trosglwyddo i’r mesurau newydd hyn rydych yn eu cyflwyno ar gyfer ffermio cynaliadwy. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:21, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Andrew R.T. Davies, am y rhestr hir honno o gwestiynau y ceisiaf eu hateb i gyd. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn, rydym wedi cael dwy broses ymgynghori hir, ac rydym wedi gorfod oedi'r gwaith. Nid wyf mor bell ymlaen ag y byddwn wedi eisiau bod, ond fe fyddwch yn deall, gyda'r pandemig COVID-19—dyna oedd y ffocws, ac mae'n parhau i fod yn ffocws. Ond roeddwn yn meddwl ei bod hi'n bwysig i mi gyflwyno'r datganiad hwn i'r Senedd er mwyn rhoi gwybod i'r Aelodau ble rydym yn y broses. Roeddwn eisiau sicrhau pobl y byddaf yn cyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd tymor y Senedd hon. Roeddwn wedi gobeithio y byddem wedi cael Bil amaethyddol drafft, ond o ystyried hyd cyfnod pontio’r UE, ac yn amlwg, gyda’r oedi a gawsom eleni, yn amlwg ni fydd hynny’n digwydd. Ond roeddwn i'n meddwl ei bod yn galonogol iawn gweld y lefel eang o gefnogaeth i'r fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy. Felly, bydd dadansoddiad parhaus o hynny yn awr, gyda modelu ac yn y blaen dros yr ychydig fisoedd nesaf. Rwy'n ymwybodol iawn pan oeddwn yn dweud yn fy natganiad, 'Byddaf yn gwneud hyn, byddaf yn gwneud y peth arall', ond wrth gwrs, cynhelir etholiad fis Mai nesaf. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cynnal y momentwm hwnnw. Mae'n bwysig iawn i'r sector amaethyddol. Felly, o’r herwydd, roeddwn i eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. 

Ar y cyllid—fel rwy’n dweud, nid ydym wedi cael cadarnhad ynghylch lefel y cyllid, ond rydych yn iawn, mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd cyllid yn cael ei neilltuo i amaethyddiaeth ar gyfer y cyfnod hwn.

Mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn bwynt diddorol iawn, oherwydd rydych chi'n hollol iawn—rydych chi a minnau ac eraill wedi dadlau ynghylch nwyddau cyhoeddus, ac ynglŷn ag a yw bwyd yn nwydd cyhoeddus mewn gwirionedd, ond mae ganddo farchnad, felly ni all fod. Fodd bynnag, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn amlwg yn bwysig iawn. Ac fel y dywedwch, gwelsom y prynu mewn panig ar gychwyn y pandemig mewn ffordd y credem y gallai ddigwydd pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd. Ac yn amlwg, roedd pobl yn teimlo'n ofnus, rwy'n credu, na fyddai digon o fwyd. Ac rydych chi'n llygad eich lle, camodd ein ffermwyr i’r adwy, ynghyd â llawer o bobl yn y gadwyn cyflenwi bwyd, i wneud yn siŵr, fel gwlad, na fyddem yn mynd yn brin o fwyd, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny.

Felly, rydym am barhau i ganolbwyntio ar y sector yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion defnyddwyr. Rydych chi'n iawn, cafwyd ymdrech wirioneddol, rwy'n credu, ar ran aelodau'r cyhoedd, i brynu bwyd a gynhyrchir yn lleol. Gwelsom gynnydd enfawr yn y defnydd o gigyddion lleol, ac rwyf wedi cael sgyrsiau diddorol iawn gyda'n cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru dros y tri neu bedwar mis diwethaf. Mae rhai ohonynt wedi bwrw iddi gyda gwerthiannau ar-lein, er enghraifft, ac roeddem yn gallu eu cefnogi mewn perthynas â phecynnu ac ati, ac rydym am gynnal yr ymddygiad hwnnw, y bydd pobl yn parhau i brynu'n lleol. Felly, er na all ffermydd yng Nghymru gynhyrchu mwy na rhan o'r deiet amrywiol sydd ei angen arnom i gynnal iechyd—ac mae masnach yn bwysig iawn—rwy'n credu ein bod eisiau gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod diogelwch y cyflenwad bwyd yn cael ei alluogi trwy fod cynnyrch o Gymru’n cael ei gefnogi gan fwyd wedi'i fewnforio, ond mae'n rhaid i'r bwyd hwnnw hefyd gyrraedd y safonau a welwn yma yng Nghymru. 

Rydych chi'n iawn am y Bil amaethyddol sy'n mynd trwy Lywodraeth y DU ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl cael pwerau ganddo. Os ydym am dalu ein ffermwyr y flwyddyn nesaf, roedd hi’n bwysig iawn ein bod yn cymryd y pwerau hynny, a dyna pam y gwnaethom geisio gwneud hynny. 

Fe sonioch chi am 2024, a chredaf, yn realistig, na fyddwn yn gallu pontio i gynllun newydd lawer cyn 2024, os cyn hynny o gwbl yn wir. Fe sonioch chi am hyder yn y cynllun newydd. Felly, sgyrsiau a gefais gyda llawer o ffermwyr—a chi hefyd mae’n debyg, ac yn sicr, roeddwn i'n siarad â Ffermwyr Dyfodol Cymru; cefais gyfarfod â hwy ychydig wythnosau yn ôl—nid ydynt yn credu bod cynllun y taliad sylfaenol wedi eu gwneud yn ddigon gwydn. Maent am gael y cynllun hwn oherwydd eu bod yn credu y bydd yn eu helpu i feithrin y gwytnwch hwnnw. Felly, rwy'n hyderus y bydd y canlyniadau rydym yn eu ceisio o fewn y cynllun hwn yn sicrhau bod gennym y sector amaethyddol gwydn hwnnw rydym ei eisiau.  

O ran y symleiddio, rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Nid ydym wedi gweithio ar fanylion hynny. Unwaith eto, dyna un peth sydd wedi cael ei ohirio dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond fel y dywedaf, byddwn yn lansio ymgynghoriad—mae'n dweud yn fy nodiadau, 'yn yr haf', ond yn amlwg, mae’n haf eisoes, felly nid wyf yn hollol siŵr. Ond yn sicr nid wyf mewn sefyllfa i allu gwneud hynny yn ystod yr haf gwleidyddol eto. 

Fe sonioch chi am Taliadau Gwledig Cymru, ac rwy’n ddiolchgar i Archwilio Cymru am yr adroddiad hwnnw, ac yn amlwg bydd swyddogion yn ymateb iddo maes o law ac yn darparu tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a dyna’r union le y dylid ei ystyried yn briodol. Fodd bynnag, rwyf am ddweud—a chredaf fod yr adroddiad yn gwneud hyn yn glir iawn—gwerth am arian yw'r broblem. Ni chafodd ei brofi’n iawn wrth arfarnu prosiectau, a gwn fod swyddogion wedi adolygu’r prosiectau dan sylw i sicrhau eu bod yn sicrhau gwerth am arian yn ymarferol a lle bo’n briodol yn rhoi camau ar waith i sicrhau ein bod yn cyflawni gwerth am arian, gan gynnwys aildendro rhai o’r prosiectau. Felly, roedd gwaith eisoes wedi'i wneud yn rhai o'r meysydd, felly mae gennyf hyder yn Taliadau Gwledig Cymru ac maent wedi gweithio'n galed iawn ar y broses hon a sicrhau bod y cynllun yn dod yn destun ymgynghoriad. Fel y dywedaf, nid ydym mor bell ymlaen ag y byddwn wedi dymuno bod, ond yn amlwg—. Rwy'n credu bod y cam nesaf yn fwy cyffrous yn ôl pob tebyg, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni oedi yn awr, ystyried yr ymatebion, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau wedi darllen y ddogfen. 

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:27, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Weinidog. Fe ddechreuaf efallai trwy ofyn i chi egluro ychydig o anghysondebau y credaf fy mod yn sylwi arnynt yn eich datganiad ac yn y ddogfen ymateb polisi gysylltiedig a gyhoeddwyd gennych i fynd gyda'ch datganiad heddiw. Rydych chi'n dweud wrthym yn eich datganiad y byddwch yn cyflawni ystod o ddadansoddiadau economaidd i ddeall effaith symud o un system i'r llall—rydych chi eisoes wedi ymhelaethu ychydig ar hynny—a'ch bod yn disgwyl allbwn o'r dadansoddiad yr haf nesaf, ond yn yr anadl nesaf, rydych chi'n dweud cyn diwedd tymor y Senedd hon—felly, mae hynny ymhell cyn yr haf nesaf a chyn i'r dadansoddiad o’r effaith economaidd fod ar gael—byddwch yn cyhoeddi Papur Gwyn, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil amaethyddiaeth (Cymru). Felly, mewn gwirionedd, onid yw hynny’n rhoi’r drol o flaen y ceffyl oherwydd eich bod yn cynnig deddfwriaeth cyn i chi wybod beth fydd yr effaith economaidd? 

Ac yn nes ymlaen, dywedwch wrthym yn y datganiad fod oedi parhaus Llywodraeth y DU cyn cadarnhau lefel y cyllid newydd yn rhwystredig a bod blaengynllunio manwl wedi'i ohirio—ac ni allwn gytuno mwy—ond sut felly y gallwch wneud y dadansoddiad economaidd o effaith system gymorth newydd os nad ydych yn gwybod faint o arian sy'n dod i Gymru? Oherwydd os cawn £5 miliwn, bydd yn cael effaith benodol; os cawn £105 miliwn, bydd yn cael effaith economaidd wahanol iawn. Felly, mae'n awgrymu i mi eich bod yn gweithio'n ddall i ryw raddau yma a'r risg, wrth gwrs, yw eich bod yn ei gael yn ofnadwy o anghywir. 

Hoffwn i chi ymhelaethu ymhellach ar yr ymgynghoriad y sonioch chi amdano a allai ddigwydd yr haf hwn, neu beidio—nid oeddech yn sicr pryd yn union y bydd yn digwydd—ynglŷn â chadw a symleiddio rheolau ynghylch cymorth amaethyddol i ffermwyr a'r economi wledig. Pa fath o reolau rydych chi'n edrych arnynt yma? Pa reolau yn benodol? Rhowch un enghraifft i ni oherwydd rwyf eisiau deall yn union beth rydych chi'n ceisio'i gyflawni a ble rydych chi'n targedu'r ymgynghoriad hwnnw.

Rydych yn dweud wrthym yn eich datganiad fod rhai yn dadlau y byddai'r ffocws ar ganlyniadau amgylcheddol yn niweidio hyfywedd ariannol ffermio yng Nghymru. Nid wyf yn cytuno y byddai'n niweidio hyfywedd economaidd ffermio yng Nghymru. Credaf, mewn gwirionedd, fod talu am nwyddau cyhoeddus yn cynnig cyfleoedd enfawr ac mae'n rhaid i ni adlewyrchu'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol sy'n ein hwynebu o fewn polisi rheoli tir fel y gwnawn ar draws holl bolisïau'r Llywodraeth. Ond wrth gwrs, fy mhryder, fel y gwyddoch, yw eich bod yn fframio hon fel sefyllfa naill ai/neu. Rydych chi'n rhoi'r cynnig inni naill ai ein bod yn cael taliad am nwyddau cyhoeddus neu ein bod yn cadw taliad sylfaenol. Nawr, nid wyf yn cytuno ei bod hi’n sefyllfa naill ai/neu. Rwy'n credu bod cael gwared yn llwyr ar o leiaf un elfen o daliad uniongyrchol yn creu gormod o risg y byddwch yn colli'r ffermydd teuluol rydych chi'n dibynnu arnynt i gyflawni'r canlyniadau amgylcheddol rydym i gyd eisiau eu gweld. Ac wrth gwrs, bydd hynny'n gwaethygu’r anghydbwysedd pŵer sydd gennym yn y gadwyn gyflenwi bwyd gan adael ffermydd Cymru i raddau mwy ar fympwy marchnad gamweithredol sydd, wrth gwrs, yn cael ei rheoli i raddau helaeth gan nifer fach iawn o fanwerthwyr mawr iawn, a bydd hynny'n gwanhau mewn gwirionedd, nid yn cryfhau, gwytnwch y sector mewn sawl ffordd. Rydych chi'n dweud bod cynhyrchiant bwyd yn cael ei wobrwyo gan y farchnad—dyna oedd eich geiriau. Wel, os yw COVID-19 wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi tanlinellu unwaith ac am byth mewn gwirionedd nad yw'r farchnad bob amser yn gwobrwyo cynhyrchiant bwyd, ac yn aml iawn mae'r farchnad yn camfanteisio arno, a chamfanteisir ar gynhyrchiant bwyd er anfantais i'n ffermydd teuluol, ein heconomi wledig, a'n cymuned wledig ehangach. Felly, rwy’n ofni y bydd cael gwared ar unrhyw gymorth uniongyrchol yn gadael y ffermydd hynny hyd yn oed yn fwy agored a bydd Brexit, wrth gwrs, yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth. Felly dyna pam y byddai'n well gennyf fodel hybrid. Iawn, gadewch inni gynyddu’r cymorth i nwyddau cyhoeddus, ond gan gadw o leiaf elfen o gymorth uniongyrchol.

Nawr, yn olaf gennyf fi, rydych chi'n cyfeirio at y gwasanaeth cynghori ac rydych chi'n dweud eich bod yn mynd i gomisiynu asesiad annibynnol a gwrthrychol o effeithiolrwydd Cyswllt Ffermio—dywedwch wrthym yn eich dogfen ymateb polisi—i helpu i lunio cymorth cynghori yn y dyfodol, a chredaf mai dyna'r peth hollol iawn i'w wneud, ond wrth gwrs, i ddatblygu’r hyn a ddywedwyd yn gynharach am rai o'r materion a amlygwyd yn ddiweddar mewn perthynas â'r cynllun datblygu gwledig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, y risg wrth gwrs wrth drosglwyddo dull y cynllun datblygu gwledig yn effeithiol i'r system newydd sy'n cael ei chynnig, rydych mewn perygl, wrth gwrs, o drosglwyddo rhywbeth lle nad ydym o bosibl wedi dysgu'r gwersi y mae angen inni eu dysgu o ran y ffordd y caiff ei gyflawni—. Wyddoch chi, yn sicr nid ydym wedi asesu effaith y cynllun datblygu gwledig yn ddigon effeithiol hyd yn hyn—y pethau gwerth am arian a'r materion ynghylch costeffeithiolrwydd a amlygwyd gan yr archwilydd cyffredinol, a gwn fod nifer o bobl yn galw am adolygiad annibynnol i'r cynllun datblygu gwledig. Felly, os ydych chi'n barod i gael asesiad annibynnol a gwrthrychol o rai elfennau, does bosibl na ddylech fod yn barod i gael y sylw ehangach hwnnw i'r sefyllfa cyn inni ei fewnblannu yng nghalon y system newydd rydym yn symud tuag ati. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:32, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau hynny, Llyr. Mae'n ddrwg gennyf, ni atebais bwynt Andrew R.T. Davies ynghylch y dadansoddiad economaidd, ac rydym ar hyn o bryd yn caffael ymgynghorydd annibynnol i archwilio effaith y cynigion ar economi amaeth Cymru, ac yna—. Mae'n waith cymhleth a phan ddaw i law, os mai fi fydd yn ei gael, byddwn yn sicr yn gallu ei gyhoeddi, ond rwy'n credu y bydd yn cymryd ychydig o amser, oherwydd ei fod yn waith mor gymhleth. 

Mae hefyd yn bwysig iawn archwilio effeithiau economaidd amcangyfrifedig y cynigion ar fusnesau fferm—rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—yn ogystal ag ar draws y gwahanol sectorau fferm a'r gwahanol ranbarthau fferm yng Nghymru. A soniodd Llyr am ganlyniadau amgylcheddol gwahanol—wel, ni wnaethoch ddweud am wahanol ffermydd, roeddech chi'n siarad am y canlyniadau amgylcheddol, a'r hyn sy'n bwysig iawn, ac un o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi’n gyson oedd, 'A fyddai unrhyw ffermydd na allai gynhyrchu unrhyw ganlyniadau amgylcheddol?', a chredaf mai'r ateb yw, 'Na, credwn fod pob fferm o bob math a phob maint gwahanol yn gallu cynhyrchu canlyniadau amgylcheddol ac maent yn gwneud hynny yn awr, ond heb gael eu gwobrwyo amdanynt.' 

Felly, gobeithiwn y bydd pob fferm yn gallu denu taliad o dan y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig a dyna pam ei bod hi'n bwysig iawn gwneud dadansoddiad economaidd, a modelu hefyd. Felly, bydd modelu pellach yn digwydd dros y misoedd nesaf. Rydych chi'n iawn am gyfnod pontio'r UE yn y dyfodol a gadael yr UE, oherwydd gwyddom y bydd gan gysylltiadau masnach yn y dyfodol botensial i effeithio ar lawer o feysydd amgylcheddol a materion gwledig, ac er nad ydym yn gwybod beth fydd lefel y cyllid, yr hyn a ddywedwyd wrthym yw na fyddem yn colli ceiniog, felly dyna'r sail rwy’n gweithio arni ac y mae swyddogion yn gweithio arni er mwyn cyflwyno'r cynllun hwn. 

Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am COVID-19, a'r pryder ynghylch camfanteisio ar rai o'n cynhyrchwyr fferm, a gwneuthum ymdrech fawr i gyfarfod â'r fforymau manwerthu yn rheolaidd—cyfarfûm â hwy eto y bore yma—i sicrhau nad oedd hynny'n digwydd. Clywsom am un neu ddau o ddigwyddiadau lle roedd archfarchnadoedd yn rhesymoli eu cynnyrch ar bris gostyngol, ond roedd yn bwysig iawn nad oeddent yn torri cynhyrchwyr Cymru allan, ac nid oeddem am i'r camfanteisio hwnnw ddigwydd. Mae cynhyrchu bwyd bob amser wedi bod yn bwysig iawn i mi, ac roedd bob amser yn rhan o'r ymgynghoriadau. Os edrychwch ar ymgynghoriad Llywodraeth y DU, nid wyf yn credu bod y gair 'bwyd' wedi ymddangos o gwbl. Fe wnaethom yn siŵr bob amser ei fod yn gweithio, ac rydym yn gwneud gwaith yn awr ar werthoedd brand cynaliadwy, ac rydym yn cysylltu hynny â'n cynhyrchiant bwyd a diogelwch ein cyflenwad bwyd. Crybwyllais yn fy ateb i Andrew adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ond yn amlwg, mae'r risg honno y cyfeiriwch ati'n rhywbeth roeddwn yn pryderu yn ei gylch wrth gwrs, ac wrth i swyddogion ymateb i'r adroddiad hwnnw yn y pwyllgor archwilio, gallwn—. Ar ôl craffu ar yr adroddiad hwnnw yn y modd y dylid ei wneud, gallwn edrych arno. Ond rydym yn cael adolygiad parhaus o'r ffordd y caiff y cynllun datblygu gwledig ei gyflawni; os nodir problemau y gallwn fynd i'r afael â hwy, bydd angen inni wneud hynny, ond credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud pethau'n iawn cyn i unrhyw gynllun gael ei gyflwyno, oherwydd y peth olaf rwyf am ei wneud yw ei wneud yn fwy cymhleth neu'n anos.

Ond rwy'n mynd yn ôl at yr hyn a ddywedais wrth Andrew am gynllun y taliad sylfaenol a'r bobl a ddywedodd nad oedd yn darparu'r gwytnwch sydd ei angen, ac felly, er nad wyf am ruthro i bontio, nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol i beidio â chael y cynllun ar waith, ond yn realistig ni chredaf y bydd hynny'n digwydd cyn 2024. Ond rwyf eisiau gwneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan, fod pawb yn cael eu gwobrwyo am y nwyddau cyhoeddus y maent yn eu darparu—ansawdd yr aer, ansawdd y pridd, ansawdd y dŵr. Nid yw hynny'n digwydd yn awr.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 4:36, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw a chwifio'r faner dros ein sector amaethyddol. Rwy'n byw mewn cymuned ffermio, ac roeddwn i'n arfer gweithio ynddi fel gweithiwr fferm ar ffermydd cymysg a hefyd fel bugail. Tra bûm yn gweithio yn y gymuned hon, roedd yn rhaid i mi gydymffurfio â'r rheolau a'r rheoliadau a osodwyd arnom gan yr UE, megis torri cwotâu llaeth. Roedd gwylio fy ffermwyr yn gorfod cael gwared ar alwyni o laeth ddwywaith y dydd ar ôl godro am ei bod yn erbyn y rheolau hyd yn oed i'w roi i rywun am ddim, yn gwbl ddinistriol. Yna roedd gennych y cyfyngiadau trwm, y fiwrocratiaeth dorfol a'r taliadau i dirfeddianwyr mawr, cyfoethog am beidio â ffermio eu tir eu hunain—nid oedd hynny'n gwneud unrhyw synnwyr i mi. Gwyliais ffermydd bach yn methu a gwelais ddynion yn crio. Tyfodd fy Ewrosgeptigiaeth o weithio o fewn y fframwaith hwnnw.

Mae eich ymateb i'r amgylchiadau newydd a ddaeth yn sgil ein hymadawiad â'r UE yn ystyriol ac mae wedi cymryd cryn dipyn o amser ers yr ymgynghoriad cychwynnol. Nid beirniadaeth yw honno. Mae'n rhaid meddwl yn drwyadl am unrhyw newid ar y fath raddfa ac o'r natur hon, rhaid ei drafod a'i drafod eto gyda'r rhai a fydd yn gweithio o'i fewn, ac mae'n amlwg fod hynny'n wir yma. Rwy'n croesawu'r cynnig ar gyfer y Papur Gwyn yn nhymor nesaf y Senedd, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo a fydd yn llywio'r cynnwys.

Bydd rhai yn y Siambr hon yn dathlu'r ffaith bod y DU ar hyn o bryd yn y broses o negodi masnach gyda gweddill y byd; bydd gan eraill amheuon am safonau a chystadleuaeth. Felly, rwy'n falch fod Ysgrifennydd masnach y DU, yr wythnos diwethaf, wedi cyhoeddi comisiwn masnach ac amaethyddiaeth i ddylanwadu ar safonau lles anifeiliaid a chystadleuaeth yn ein hymgais i gael masnach fyd-eang. Roedd NFU Cymru yn rhan o hyn, a bydd yn parhau i gymryd rhan, mae'n ymddangos. A gaf fi ofyn i chi beth yw eich barn am y comisiwn hwn, er ei bod yn ddyddiau cynnar, a pha drafodaethau a gafodd Liz Truss gyda chi cyn iddo gael ei gytuno? Ac a oes trafodaethau ar y cyd yn cael eu cynnal bellach rhwng holl Lywodraethau'r DU ar fframweithiau cyffredin, masnach a'r holl faterion cysylltiedig? Pa sicrwydd y gallwch ei roi i'r rheini yn y sector y bydd cymorth o ryw fath yn parhau i fod ar gael tra byddant yn pontio—er fy mod yn credu eich bod wedi ateb rhan o hynny—o un cynllun i'r llall?

Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y ffocws ar reoli tir yn gynaliadwy a nwydd cyhoeddus yn eich cynigion. Ymddengys fod hyn yn creu'r bont sydd ei hangen arnom rhwng y presennol a'r dyfodol, ac mae yn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. A ydych yn ffyddiog, fodd bynnag, fod digon o hyblygrwydd wedi'i gynnwys yn y cyfeiriad teithio i ddarparu lle i ffermwyr allu arloesi a gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain? Gwn fod cynlluniau blaenorol a chyfredol wedi'u disgrifio gan y sector fel rhai rhy ragnodol, ac rwy'n gobeithio bod gwersi wedi'u dysgu yn y fan honno.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio yn y byd amaeth. Fel gweithwyr allweddol, maent wedi cadw'r wlad wedi ei bwydo o dan amgylchiadau eithriadol o anodd. Mae llawer o ddefnyddwyr wedi gweld manteision cael pecynnau cig, ffrwythau a llysiau gan eu cyflenwyr lleol. Rwy'n tybio, ac yn gwir obeithio, y bydd yr arferion a'r gwasanaethau hyn yn aros pan ddaw'r cyfyngiadau symud i ben. Rwy'n dymuno'n dda i chi gyda'ch camau nesaf, ac rwy'n dymuno gweld y sector hwn yma yng Nghymru, gyda'i gynnyrch gwych, ei arloesedd a'i wasanaethau rhagorol, yn cael y dyfodol mwyaf disglair. Diolch.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:40, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i Mandy Jones am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr—mae pawb yn y gadwyn cyflenwi bwyd wedi bod yn weithwyr allweddol wrth sicrhau nad ydym wedi mynd heb fwyd fel y dywedais yn gynharach.

Un o'r pethau a welsom ar ddechrau'r pandemig, yn anffodus, ar un achlysur, oedd llaeth yn cael ei arllwys ymaith, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â pha mor dorcalonnus oedd hynny i'r ffermwyr, a dyna'r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno cynllun y sector llaeth.

Er na fyddwch chi na minnau byth yn cytuno ar drefniadau pontio'r UE, un peth rwy'n cytuno yn ei gylch yw nad yw ffermwyr gweithredol wedi cael eu gwobrwyo'n ddigonol, a bydd y cynllun hwn yn gwobrwyo ffermwyr gweithredol. Roedd hynny'n bwysig iawn wrth inni gyflwyno'r cynllun: nad y tirfeddianwyr ond y ffermwyr, y bobl sy'n gwneud yr holl waith, fydd yn cael eu gwobrwyo. Rwyf hefyd wedi dweud ar hyd yr amser y byddwn wedi methu os cawn fwy o fiwrocratiaeth. Mae angen inni wneud yn siŵr fod pethau'n llawer symlach.

Yr ateb byr yw na chafodd Liz Truss sgyrsiau gyda mi cyn iddi gyhoeddi hynny, ond ni fyddwn yn disgwyl hynny. Ceisiasom ei chael hi i ddod i sawl un o'n cyfarfodydd pedairochrog yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig pan oedd hi yn y Trysorlys a methasom yn druenus, ar wahân i un alwad ffôn, felly nid yw hynny'n fy synnu. Fodd bynnag, byddaf yn cael sgyrsiau gyda George Eustice, yr Ysgrifennydd Gwladol dros DEFRA. Fel y gwyddoch, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd—cawsom gyfarfod yr wythnos diwethaf—ac mae honno'n sgwrs a fydd yn mynd rhagddi wrth inni drafod fframweithiau hefyd.

Mae arnaf eisiau sicrhau pawb na fyddwn yn troi at y cynllun newydd heb gyfnod pontio sylweddol. Ni fyddwn yn trosglwyddo i'r cynllun hwnnw hyd nes y bydd popeth yn ei le. Fel y dywedais, credaf y byddai'n syndod mawr pe bai hynny'n digwydd cyn 2024.

Yn amlwg, cawsom ein harwain gan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol a Deddf yr amgylchedd, a byddant yn parhau i'n harwain. Rwy'n credu bod yna ddigon o hyblygrwydd. Rwyf am weld arloesedd yn ein sector amaethyddol—mae'n rhywbeth rydym wedi'i annog ac rwy'n credu bod sawl rhan o'r sector wedi deall hynny.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:42, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid ei bod yn rhwystredig iawn peidio â gwybod faint o arian y mae Cymru yn mynd i'w gael o beth bynnag sy'n mynd i gymryd lle'r polisi amaethyddol cyffredin, ond rwy'n teimlo, p'un a yw'n mynd i fod yn £5 miliwn neu £105 biliwn neu filiwn, fod angen inni osod y paramedrau rydym yn mynd i weithredu o'u mewn. Rwy'n teimlo na chawn lais yn hyn, yn dibynnu ar beth fydd Llywodraeth y DU yn ei ddarparu—gyda'u Brexit heb gytundeb o bosibl, gyda'u cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau a chlorineiddio ein rhaglen fwyd.

Felly, rwy'n teimlo ein bod mewn perygl o fethu gwneud dim heblaw derbyn yn oddefol beth bynnag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ni, yn hytrach na phenderfynu'n weithredol beth sy'n bwysig yn ein tyb ni ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio ein tir a'r ffordd rydym yn gwobrwyo canlyniadau yn hytrach na dim ond hawl, yn syml oherwydd bod rhywun yn dirfeddiannwr. Felly, mae'n ymddangos i mi fod angen inni symud yn llawer cyflymach nag y nodwch yn eich datganiad. Mae'n fy ngofidio nad ydym hyd yn oed yn mynd i gael dadansoddiad o'r newid o gynllun yn seiliedig ar hawliau i gynllun gwirfoddol tan yr haf ar ôl etholiadau'r flwyddyn nesaf.

Fel y dywedwch, mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn yn fyd-eang ond mae gennym gymaint o bethau sy'n digwydd o'n cwmpas, ac os na fyddwn yn penderfynu'n weithredol beth rydym am ei wneud, yn unol â Deddf yr amgylchedd a Deddf cenedlaethau'r dyfodol, fe gawn ein sgubo ymaith.

Felly, roeddwn am eich holi ynglŷn â dau ddatblygiad penodol sydd eisoes wedi digwydd yn ddiweddar. Un ohonynt yw—nid wyf yn gwybod a yw Andrew R.T. Davies a Llyr Gruffydd yn ymwybodol o hyn, ond mae'r DU wedi cyhoeddi canllawiau ar farchnata rhywogaethau o hadau amaethyddol a llysiau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr sy'n dymuno ychwanegu unrhyw rywogaeth nad yw ar y rhestr yn barod i dalu £300 y rhywogaeth i gael lle ar y rhestr a ganiateir er mwyn eu gwerthu. Rhodd i Monsanto a McDonaldeiddio bwyd yw hyn, yn hytrach na bod y rhywogaethau mwyaf addas yn cael eu rhannu ar gyfer eu tyfu ym mhridd Cymru. Felly, byddwn yn awyddus i wybod a ydych wedi cael cyfle i ddadansoddi beth yn union fydd effaith hynny.

A'r ail bwynt yw bod Dr Tom Jefferson o Ganolfan Meddygaeth Seiliedig ar Dystiolaeth Prifysgol Rhydychen yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi nodi presenoldeb coronafeirws ledled y byd yn systemau carthffosiaeth Sbaen, yr Eidal a Brasil ymhell cyn yr achos yn Wuhan, a dywed i'r clefyd daro am iddo ganfod amodau ffafriol mewn amgylcheddau bwyd-ddwys fel ffatrïoedd bwyd a safleoedd pecynnu cig, ac rwy'n awgrymu y dylem ychwanegu ffermydd cywion ieir a moch dwys a mega-hufenfeydd at y rhain.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:46, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ddod i ben, os gwelwch yn dda?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud o'r cysylltiad rhwng COVID a'i fagu mewn amgylcheddau bwyd dwys.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn, diolch, Jenny Rathbone. Rydym yn mynd ar drywydd ein cynllun a'n polisi amaethyddol ein hunain. Rwyf bob amser wedi dweud y bydd yn cael ei deilwra ar gyfer Cymru ac rydym yn parhau i wneud hynny yng ngoleuni'r holl anawsterau rydych wedi'u hamlinellu.

Mewn perthynas â'r cyfeiriad at y £300 y rhywogaeth i ychwanegu gwerthwyr at y rhestr a ganiateir, mae'r ffi o £300 yn rhan o'r broses ymgeisio arferol ar gyfer rhestriadau yn y DU ac mae hynny'n sicrhau bod y costau a ysgwyddir wrth ddarparu'r gwasanaethau hyn yn cael eu hadennill yn llawn. A'r gost o gofrestru mathau treftadaeth neu rywogaethau a fwriadwyd ar gyfer garddwyr yn bennaf—rwy'n credu eu bod yn cael eu galw'n 'llysiau amatur'—mae honno'n is, ac mae oddeutu £100 am bob rhywogaeth yr ymgeisir amdani. Ond rydym yn parhau i weithio i gefnogi'r diwydiant, ac enghraifft o hyn yw'r broses symlach a lansiwyd gennym yn ddiweddar ar gyfer copïo rhywogaethau o blanhigion catalog cyffredin yr UE i restr genedlaethol y DU er mwyn sicrhau bod gennym farchnata parhaus a di-dor yn y DU ar ôl i gyfnod pontio'r UE ddod i ben.  

O ran eich cwestiwn ynghylch Dr Tom Jefferson, sydd, fel y dywedwch, wedi nodi presenoldeb y feirws o amgylch y byd cyn yr achosion yn Wuhan, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddau achos a gawsom yng ngogledd Cymru a'r digwyddiad ym Merthyr Tudful, a hoffwn ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac awdurdodau lleol am eu hymateb i'r achosion hyn. Bydd fy nghyd-Aelodau'n ymwybodol fod nifer o achosion wedi'u nodi o'r newydd ac mai nifer fach ohonynt a geir bellach, a hynny oherwydd bod gennym y system profi, olrhain a diogelu ar waith yn awr.

Rwyf am bwysleisio bod gan y diwydiant bwyd arferion sefydledig i gyfyngu ar groeshalogi o fewn ei linellau cynhyrchu ac ymhlith ei staff, a chydnabuwyd hyn gan yr awdurdodau iechyd cyhoeddus a chan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ystod eu hymchwiliadau. Unwaith eto, hoffwn bwysleisio bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud nad oes unrhyw risg o drosglwyddo drwy fwyd, ond wrth gwrs rydym yn edrych yn barhaus ar hyn a byddwn bob amser yn ystyried tystiolaeth brofedig pan fyddwn yn datblygu ein polisi.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, diolch am y datganiad. Dywedodd y cyhoeddiad Nation.Cymru heddiw fod y Financial Times yn adrodd y bydd Llywodraeth y DU yn gorfodi Cymru i dderbyn cynnyrch amaethyddol israddol, megis cyw iâr wedi'i glorineiddio er enghraifft, a dywedodd fod uwch swyddog yn Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd disgwyl i ni gydymffurfio â hynny.

Onid ydych yn credu ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru dynnu llinell yn y tywod i Lywodraeth y DU a sefyll yn gadarn dros gynhyrchwyr bwyd yng Nghymru? Oherwydd mae'r ddeddfwriaeth yn bodoli eisoes. Mae gennym ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus a dylem ei defnyddio i atal mewnforio cyw iâr wedi'i glorineiddio a chynhyrchion israddol eraill. Felly, nid wyf yn gweld pam y dylai iechyd pobl Cymru gael ei niweidio gan gynnyrch o'r fath. Felly, mae'r pwerau ar waith gennym eisoes, y cwestiwn i chi mewn gwirionedd yw hwn: a ydych yn barod i'w defnyddio ac a ydych yn barod i gefnogi'r gymuned amaethyddol yn y ffordd honno?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:50, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Yr ateb byr yw 'ydw'. Rwy'n gwbl benderfynol o gefnogi'r gymuned amaethyddol, ac rydym wedi dweud yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU na fyddwn yn derbyn safonau is ym maes iechyd a lles anifeiliaid. Fe fyddwch yn ymwybodol mai Eluned Morgan yw'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros drafodaethau masnach ar ran Llywodraeth Cymru ac mae hi hefyd wedi dweud yn glir mewn perthynas â'r trafodaethau masnach sydd ar y gweill yn awr gan Lywodraeth y DU wrth i ni nesáu at gyfnod pontio'r UE, na fyddwn yn derbyn hynny. Rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn wrth DEFRA nad ydynt yn dderbyniol. Nid ydynt yn dderbyniol i'r UE yn awr, felly nid wyf yn gweld pam y dylent fod yn dderbyniol ar ôl y cyfnod pontio.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Weinidog.