Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Cyflwynodd yr ymgynghoriad achos dros gyllid yn y dyfodol i gefnogi a gwobrwyo ffermwyr sy'n gweithredu systemau ffermio cynaliadwy mewn byd lle mae cytundebau masnach yn y dyfodol yn debygol o agor ein marchnadoedd i fwy o gystadleuaeth, gan ddangos cynaliadwyedd bwyd a gynhyrchir ar ffermydd Cymru, gyda safonau lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel yn debygol o fod yn gynyddol bwysig. Byddai'r fframwaith hefyd yn caniatáu inni gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a chyflawni yn erbyn ein hymrwymiadau cyfiawnder amgylcheddol.
Cawsom dros 3,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Hoffwn ddiolch eto i'r rhai a gymerodd amser i'w ddarllen, ei ystyried ac ymateb iddo. Ym mis Mai, cyhoeddais ddadansoddiad annibynnol o'r ymatebion, a heddiw, rwy'n cyhoeddi'r ymateb polisi i'r ymgynghoriad. Mae'r ystod o safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion yn adlewyrchu cwmpas eang y cynigion yn yr ymgynghoriad. Ar ôl ystyried y rhain yn ofalus a'r ystod o safbwyntiau a fynegwyd yn ystod y broses, rwy'n parhau i gynnig system o gefnogaeth i amaethyddiaeth yn y dyfodol wedi'i chynllunio o amgylch y fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy.
Codwyd cystadleurwydd y sector ffermio yng Nghymru fel mater allweddol mewn llawer o ymatebion, gyda rhai’n dadlau y byddai canolbwyntio ar ganlyniadau amgylcheddol yn niweidio hyfywedd ariannol ffermio yng Nghymru. Byddai'r dull arfaethedig yn darparu llif incwm pwysig i ffermwyr, gan gydnabod y gwaith pwysig a wnânt yn cyflawni canlyniadau amgylcheddol a’u gwobrwyo amdanynt. Yn ogystal, rydym yn ceisio cryfhau cystadleurwydd hirdymor y sector trwy well cyngor a chefnogaeth i fusnesau. Bydd hyn yn helpu i gefnogi ffermwyr yn y realiti economaidd newydd yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. Mae cystadleurwydd ffermio, cynhyrchu bwyd a gwytnwch amgylcheddol gwell yn agendâu sy’n ategu ei gilydd ac mae ein cynigion yn glir yn hyn o beth. Bydd dull o reoli tir yn gynaliadwy yn caniatáu inni ymateb i'r argyfwng hinsawdd, yn helpu i wyrdroi dirywiad mewn bioamrywiaeth, yn sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid ac yn amddiffyn ein hadnoddau naturiol. Bydd bwyd a gynhyrchir gan ddefnyddio'r dull hwn yn gynaliadwy, ac yn diogelu’r cyflenwad bwyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yng ngoleuni hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i ddatblygu cynigion ar gyfer cynllun yn seiliedig ar y fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy. Archwilir ystod o opsiynau, a bydd pob un ohonynt yn cael eu barnu o ran cost, budd a chydymffurfiaeth â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) (2016). I gefnogi datblygiad ein cynigion, rydym yn cynnal amryw o ddadansoddiadau economaidd i ddeall effaith symud o gynllun cymorth incwm yn seiliedig ar hawliau i gynllun gwirfoddol sy'n gwobrwyo am gynhyrchu canlyniadau. Rydym yn disgwyl allbwn o'r dadansoddiad hwn yr haf nesaf a byddaf yn sicrhau bod hwn ar gael i'r cyhoedd.
Ni wneir unrhyw benderfyniad ar unrhyw gynllun yn y dyfodol cyn i mi ystyried canlyniadau'r dadansoddiad a’r holl ffactorau perthnasol eraill. Er mwyn galluogi ffermwyr i addasu eu model busnes presennol i ddarparu ar gyfer unrhyw newidiadau sy'n ofynnol o dan y cynllun arfaethedig, bydd yna gyfnod pontio. Cyn diwedd tymor y Senedd hon, byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn, a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil amaethyddiaeth (Cymru) yn ystod chweched tymor y Senedd. Rwy'n cynnig bod y Bil hwn yn strategol ei gwmpas, gan osod fframwaith o gefnogaeth a all ddarparu ar gyfer datblygu amaethyddiaeth a choedwigaeth yng Nghymru am y 15 i 20 mlynedd nesaf. Bydd y Bil yn galluogi ffermwyr i gael cymorth ariannol ac yn sicrhau y gellir cymhwyso system reoleiddio gydlynol a theg i'r sector amaethyddol. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i alluogi datblygiad parhaus y cynigion hyn ar gyfer y Papur Gwyn.
Er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn cael eu cefnogi wedi i'r DU adael yr UE, rwy'n bwriadu lansio ymgynghoriad yn ddiweddarach yn yr haf i ofyn am safbwyntiau ar gadw a symleiddio rheolau ynghylch cefnogaeth amaethyddol i ffermwyr a'r economi wledig. Byddai'r gefnogaeth hon yn pontio'r bwlch rhwng cyllid cyfredol yr UE ac unrhyw gynllun newydd yn seiliedig ar reoli tir yn gynaliadwy. Mae oedi parhaus Llywodraeth y DU cyn cadarnhau lefel y cyllid newydd yn rhwystredig ac yn peri oedi i’n gallu i flaengynllunio’n fanwl.
Yn fyd-eang, mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod heriol ac nid yw ffermwyr Cymru, wrth gwrs, wedi gallu dianc rhag yr amgylchiadau diweddar. Rwy'n falch o'r gwytnwch y maent wedi'i ddangos wrth ymateb i'r anawsterau hynny. Mae ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill yn chwarae rhan hanfodol yn lles economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Cymru. Byddwn yn parhau i'w cynorthwyo i addasu i newidiadau economaidd a gwleidyddol, yn ogystal ag effaith newid yn yr hinsawdd.