Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid ei bod yn rhwystredig iawn peidio â gwybod faint o arian y mae Cymru yn mynd i'w gael o beth bynnag sy'n mynd i gymryd lle'r polisi amaethyddol cyffredin, ond rwy'n teimlo, p'un a yw'n mynd i fod yn £5 miliwn neu £105 biliwn neu filiwn, fod angen inni osod y paramedrau rydym yn mynd i weithredu o'u mewn. Rwy'n teimlo na chawn lais yn hyn, yn dibynnu ar beth fydd Llywodraeth y DU yn ei ddarparu—gyda'u Brexit heb gytundeb o bosibl, gyda'u cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau a chlorineiddio ein rhaglen fwyd.
Felly, rwy'n teimlo ein bod mewn perygl o fethu gwneud dim heblaw derbyn yn oddefol beth bynnag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ni, yn hytrach na phenderfynu'n weithredol beth sy'n bwysig yn ein tyb ni ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio ein tir a'r ffordd rydym yn gwobrwyo canlyniadau yn hytrach na dim ond hawl, yn syml oherwydd bod rhywun yn dirfeddiannwr. Felly, mae'n ymddangos i mi fod angen inni symud yn llawer cyflymach nag y nodwch yn eich datganiad. Mae'n fy ngofidio nad ydym hyd yn oed yn mynd i gael dadansoddiad o'r newid o gynllun yn seiliedig ar hawliau i gynllun gwirfoddol tan yr haf ar ôl etholiadau'r flwyddyn nesaf.
Fel y dywedwch, mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn yn fyd-eang ond mae gennym gymaint o bethau sy'n digwydd o'n cwmpas, ac os na fyddwn yn penderfynu'n weithredol beth rydym am ei wneud, yn unol â Deddf yr amgylchedd a Deddf cenedlaethau'r dyfodol, fe gawn ein sgubo ymaith.
Felly, roeddwn am eich holi ynglŷn â dau ddatblygiad penodol sydd eisoes wedi digwydd yn ddiweddar. Un ohonynt yw—nid wyf yn gwybod a yw Andrew R.T. Davies a Llyr Gruffydd yn ymwybodol o hyn, ond mae'r DU wedi cyhoeddi canllawiau ar farchnata rhywogaethau o hadau amaethyddol a llysiau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr sy'n dymuno ychwanegu unrhyw rywogaeth nad yw ar y rhestr yn barod i dalu £300 y rhywogaeth i gael lle ar y rhestr a ganiateir er mwyn eu gwerthu. Rhodd i Monsanto a McDonaldeiddio bwyd yw hyn, yn hytrach na bod y rhywogaethau mwyaf addas yn cael eu rhannu ar gyfer eu tyfu ym mhridd Cymru. Felly, byddwn yn awyddus i wybod a ydych wedi cael cyfle i ddadansoddi beth yn union fydd effaith hynny.
A'r ail bwynt yw bod Dr Tom Jefferson o Ganolfan Meddygaeth Seiliedig ar Dystiolaeth Prifysgol Rhydychen yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi nodi presenoldeb coronafeirws ledled y byd yn systemau carthffosiaeth Sbaen, yr Eidal a Brasil ymhell cyn yr achos yn Wuhan, a dywed i'r clefyd daro am iddo ganfod amodau ffafriol mewn amgylcheddau bwyd-ddwys fel ffatrïoedd bwyd a safleoedd pecynnu cig, ac rwy'n awgrymu y dylem ychwanegu ffermydd cywion ieir a moch dwys a mega-hufenfeydd at y rhain.