Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Rwy'n deall fy mod weithiau'n rhoi'r argraff fy mod yn treulio mwy o amser yn gwylio chwaraeon nag a dreuliaf yn cymryd rhan, ac mae'r misoedd diwethaf wedi fy nysgu am beryglon cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond y prynhawn yma, os caf, hoffwn wneud yr achos, am rai munudau, dros edrych eto ar sut y gallwn ailagor y cyfleusterau sy'n galluogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn ein cymunedau.
Mwynheais ddarllen adroddiad y pwyllgor. Teimlwn fod cydbwysedd da iawn yn yr adroddiad rhwng ei ffocws ar y prif chwaraeon wedi'u trefnu—ac rwy'n cytuno'n gryf â'r dadansoddiad a ddarparwyd i'r pwyllgor gan gynrychiolwyr y chwaraeon hyn—ac effaith COVID hefyd ar faterion ehangach yn ymwneud â ffitrwydd, iechyd a llesiant yn ein cymdeithas, materion y mae John Griffiths newydd fod yn eu disgrifio yng Nghasnewydd. A gallai fod wedi gwneud yr araith honno am Flaenau Gwent ac am lawer o gymunedau eraill ar hyd a lled y wlad hefyd. Ceir nifer o ardaloedd lle mae chwaraeon yn bwysig i'n hiechyd a'n llesiant meddyliol cyffredinol.
Tua blwyddyn yn ôl bellach, roeddwn yn Ysgol Gynradd y Cwm yn fy etholaeth yn cymryd rhan yn y filltir ddyddiol a'r gweithgarwch corfforol roedd y plant yn ei wneud yn yr ysgol honno. Roedd y pennaeth yn glir iawn fod canlyniadau'r gweithgarwch corfforol hwnnw i'w gweld yng nghanlyniadau addysgol y disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â'u hiechyd a'u llesiant. Ac o ystyried y sefyllfa rydym wedi bod drwyddi dros y misoedd diwethaf, rwy'n ymwybodol iawn fod y plant a'r bobl ifanc hyn, yn enwedig yn yr achos hwn, yn colli'r cyfleoedd hynny.
Ond rydym hefyd yn gwybod—ac roeddwn yn credu bod yr adroddiad yn glir iawn yn hyn o beth—ein bod, dros y tri mis diwethaf, wedi gweld lefelau gwahaniaethol o weithgarwch corfforol yn ein cymunedau; fod cymunedau cyfoethocach, teuluoedd cyfoethocach, pobl gyfoethocach i'w gweld yn gallu cynyddu gweithgarwch corfforol a gwneud mwy o ran iechyd a llesiant, ond gwelsom bobl dlotach, pobl sy'n dod o gefndiroedd tlotach ac sy'n byw mewn cymunedau tlotach, yn gwneud llai o weithgarwch corfforol ac yn cael llawer llai o gyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a chefnogi llesiant.
Yr hyn y mae hynny'n ei wneud, wrth gwrs, yw cynyddu ac ehangu'r anghydraddoldebau a welwn eisoes yn ein cymunedau o ran iechyd a llesiant ehangach, ac mae perygl gwirioneddol y bydd COVID yn cael yr effaith glir ac amlwg a gaiff y feirws ar ein cymunedau ar unwaith, ond bydd hefyd yn gadael gwaddol o anghydraddoldeb yn ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn. Hoffwn weld sut y mae'r Llywodraeth yn llunio cynllun i agor y cyfleusterau a fydd yn sail i iechyd a llesiant gwahanol gymunedau, yn deall sut y gellir ailagor pyllau nofio, yn deall sut y gellir ailagor canolfannau hamdden eto, ynghyd â champfeydd a stiwdios ffitrwydd.
Rydym eisoes yn sôn am y modd y mae chwaraeon awyr agored wedi gallu ailgychwyn dros yr wythnosau diwethaf, ond chwaraeon dan do hefyd. Rwy'n noddwr y clwb chwaraeon cadair olwyn yng Nglynebwy, ac rwyf wedi gweld sut y mae'r clwb chwaraeon cadair olwyn yno wedi gallu datblygu, nid yn unig y clwb o ran eu gweithgareddau, ond hefyd o ran y ffordd y maent yn mynd i'r afael â materion sylfaenol a phwysig fel iechyd a llesiant eu haelodau. A phan fyddwn yn sôn am chwaraeon, rwy'n credu bod angen inni fabwysiadu ymagwedd fwy cyfannol tuag at yr hyn yw chwaraeon mewn gwirionedd. Nid gwylio rhai o'r gemau cenedlaethol a rhyngwladol yn unig ydyw, mae hefyd yn golygu'r hyn sy'n digwydd ar brynhawn Sadwrn, bore Sadwrn a nos Fawrth yn ein cymunedau ar hyd a lled y wlad.
Byddwn mewn helynt ofnadwy gartref pe na bawn yn defnyddio'r cyfle hwn hefyd i ddweud bod fy mab naw oed yn awyddus iawn i fynd allan i chwarae pêl-droed eto, ac rwy'n siŵr bod yna deuluoedd â meibion naw oed ar hyd a lled y wlad sydd eisiau mynd allan i chwarae pêl-droed neu rygbi neu beth bynnag. Felly, mae angen i ni edrych ar sut y gallwn wneud hyn.
Gadewch imi orffen ar y pwynt hwn, Ddirprwy Lywydd; rwy'n gwybod fy mod yn profi eich amynedd. Dyma adroddiad arall sy'n dangos diffyg ymgysylltiad effeithiol ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig â Llywodraeth Cymru. Mae hon wedi bod yn broblem gyson drwy gydol y misoedd diwethaf, ac rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, wrth dderbyn yr adroddiad y prynhawn yma, y bydd Senedd Cymru hefyd yn nodi bod angen i ni fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol hon o ddiffyg ymgysylltiad ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.