10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: COVID-19 a Thrafnidiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 6:23, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae tirwedd trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wedi newid yn ddramatig eleni mewn ymateb i'r pandemig COVID-19, a chyn i mi fynd rhagddi i wneud fy sylwadau, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r gweithwyr ledled Cymru sydd wedi parhau i weithio ac sy'n cadw llwybrau teithio hanfodol ar agor i weithwyr allweddol ledled y wlad. Mae trafnidiaeth gyhoeddus cyn ac yn sicr yn ystod y cyfyngiadau wedi bod yn achubiaeth i weithwyr allweddol, ac mae arnom oll ddyled fawr iddynt am eu hymroddiad a'u gwaith caled drwy gydol yr argyfwng hwn.

Nawr, ar ddechrau'r pandemig COVID-19, manteisiais ar y cyfle i holi'r Prif Weinidog am brotocolau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i ddiogelu diogelwch cymudwyr ac i gynnal y safonau hylendid uchaf posibl, oherwydd roedd yn amlwg o'r cychwyn cyntaf y byddai COVID-19 yn amharu'n sylweddol ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Felly, dylai hwn fod wedi bod yn faes a gai flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru o'r cychwyn cyntaf, ac mae'n rhwystredig clywed gan y rhai sy'n gweithio yn y sector na ddarparwyd mwy o wybodaeth ac eglurder o'r cychwyn cyntaf. Roedd tystiolaeth gan randdeiliaid i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y mis diwethaf yn dweud yn glir fod angen i'r sector wybod i ble roedd yn mynd, a chyda pheth eglurder yn eithaf cyflym. Aelodau, ni ellir rhoi digon o bwyslais ar yr angen hwnnw am eglurder. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus, mae lefelau gwasanaeth wedi gostwng yn sylweddol dros nos, gan arwain at waith o ddifrif ar gynllunio'r gweithlu ac angen i ailwampio ac ailasesu llwybrau er mwyn sicrhau y gallai'r rhai sy'n parhau i deithio at ddibenion hanfodol wneud hynny o hyd ac yn y modd mwyaf diogel posibl.

Gan symud ymlaen, mae'r sector trafnidiaeth yn iawn i nodi nad yw gweithredu gwasanaethau bysiau masnachol yn ymarferol lle mae lefelau capasiti cerbydau ar lefel is. Yn naturiol, ni fydd bysiau, er enghraifft, yn gallu darparu ar gyfer yr un nifer o deithwyr i bob cerbyd ag y gallent ei wneud cyn y pandemig, ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddechrau edrych o ddifrif ar sut y bydd gwasanaethau bysiau yn gynaliadwy yn y dyfodol, gan ystyried y problemau mawr y maent yn eu hwynebu mewn perthynas â glynu at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Nawr, mae Aelodau eraill wedi cydnabod bod bysiau'n achubiaeth i gynifer o bobl ledled Cymru drwy ddarparu ffordd i bobl gyrraedd a manteisio ar wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, ac wrth i fwy a mwy o bobl ddychwelyd i'r gweithle, mae angen strategaeth argyfwng ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu gadael ar ôl wrth i'r galw am deithio gynyddu. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r effaith yn fy etholaeth fy hun, lle mae darparwyr lleol wedi dweud yn glir iawn fod angen mwy o gymorth ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n ymwybodol o'r gwaith a wnaed gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i sefydlu grŵp adfer gyda Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, ac mae hwnnw'n gyfrwng pwysig ar gyfer ymgysylltu â'r sector trafnidiaeth ac ymateb i'w pryderon. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, darparodd y grŵp hwnnw wybodaeth ynglŷn â faint y byddai'n ei gostio i gynyddu gwasanaethau dros gyfnod o chwe mis rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr ar gyfer yr holl weithredwyr yng Nghymru, yn ogystal â darparu gwybodaeth mewn perthynas â phecyn ysgogi economaidd ar gyfer bysiau. Bedair wythnos ar ôl cael y wybodaeth honno, dywedwyd yn glir wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau na chafwyd ymateb ffurfiol i'r grŵp adfer. Roedd y wybodaeth honno'n haeddu sylw brys o gofio effaith ddifrifol y pandemig ar ddarparwyr, ac eto roedd y Llywodraeth yn araf yn ymateb yn ffurfiol i'r sector. Wrth symud ymlaen, rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu ei hymdrechion a'i chyfathrebiadau â'r diwydiant trafnidiaeth, a rhaid dysgu gwersi o'r pandemig hwn i lywio polisi'n well yn y dyfodol.

Hoffwn ddefnyddio fy amser hefyd i ganolbwyntio ar effaith COVID-19 ar y diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd, gan fod y sylwadau a gefais gan fusnesau yn fy etholaeth wedi dangos yn glir fod y busnesau hyn wedi methu cael cymorth grant pwysig a mesurau eraill a gyflwynwyd yn wreiddiol i gefnogi diwydiant. Mae'n dal i fod angen mawr am y busnesau hyn i gefnogi ymateb y wlad i'r argyfwng COVID-19, ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sefydlu sut a lle y gall gefnogi'r busnesau hyn orau. Dywedodd un darparwr lleol wrthyf, ac rwy'n dyfynnu, 'Er bod y rhan fwyaf o'n cwsmeriaid wedi cau drws eu siopau a'r staff wedi'u gosod ar ffyrlo, mae angen i ni fod yn weithredol o hyd er mwyn darparu cyflenwadau hanfodol i ysbytai a bwyd i ganolfannau dosbarthu. Mae'r llwythi a gludwn wedi lleihau'n sylweddol gan fod rhai cwsmeriaid sy'n gwerthu nwyddau dianghenraid wedi cau. Nid yw'r mesurau cymorth ariannol presennol yn gweithio. Nid oes modd cael benthyciadau ac nid ydynt yn darparu'r cymorth uniongyrchol sydd ei angen ar weithredwyr.' Dyna'r realiti y mae rhai busnesau cludo nwyddau yn ei wynebu yng Nghymru, ac mae'n rhaid i rywbeth newid.

Ddirprwy Lywydd, mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar fywydau pawb ohonom. Mae'n argyfwng iechyd cyhoeddus, yn argyfwng economaidd, a gallai'n hawdd iawn fod yn argyfwng trafnidiaeth hefyd os na weithredwn yn awr a gwrando ar y pryderon a leisir gan y sector. Rwy'n derbyn nad oes y fath beth â ffon hud ac y bydd effaith COVID-19 yn parhau i'w deimlo am beth amser i ddod, ond mae'n rhaid i'r diffyg cymorth ac ymgysylltiad ystyrlon â'r sector newid. Felly, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn rhoi sylw i'r pryderon a gyflwynwyd gan y sector ac yn dechrau ystyried sut y gall darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus Cymru fynd i'r afael â rhai o'r problemau hyn wrth i'r cyfyngiadau lacio ac wrth i fwy o bobl ddod i ddibynnu ar eu gwasanaethau. Diolch.