Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar drafnidiaeth bws, oherwydd ar gyfer Torfaen, fel llawer o gymunedau difreintiedig yng Nghymru, y rhain yw'r cysylltiadau trafnidiaeth pwysicaf. Heb yr ateb cywir i weithredwyr, gyrwyr a theithwyr, rydym mewn perygl o ddioddef y canlyniad gwaethaf posibl yn y tymor hir yn sgil y pandemig hwn, ac o weld yr anfantais sydd eisoes yn bodoli yn gwreiddio'n ddyfnach yn ein cymunedau.
Rwy'n gwybod bod dadl yn mynd rhagddi ar hyn o bryd ynglŷn ag a fydd COVID-19 yn gorfodi pobl yn ôl i'w ceir, ond i lawer o bobl mewn cymunedau fel Trefddyn yn fy etholaeth i, lle mae nifer y bobl sy'n berchen ar geir yn llawer is na chyfartaledd Cymru, nid oes dewis. O ran iechyd neu'r amgylchedd, mae'n fater o drafnidiaeth gyhoeddus neu ddim byd. Mae'r un peth yn wir o ran cyfraddau marwolaethau, y gallu i addysgu gartref, mynediad at ofal iechyd neu atebion trafnidiaeth. Nid yw COVID-19 yn gwneud pawb yn gyfartal fel yr awgrymodd rhai yn ôl ym mis Mawrth. Nid yw'n effeithio ar bawb ohonom yr un fath. Mewn gwirionedd, mae'r pandemig hwn wedi gweithredu fel catalydd ar gyfer anghydraddoldeb. Fel y dywedodd yr Athro Devi Sridhar,
Cyfoeth yw'r strategaeth warchod orau rhag y feirws hwn, a rhag profi effeithiau difrifol.
Wrth inni weithio ein ffordd allan o'r cyfyngiadau symud, mae hybu mynediad diogel at drafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i sicrhau nad yw diogelwch iechyd y cyhoedd ar gyfer y breintiedig yn unig. Rwy'n cydnabod na fydd yn hawdd. Mae'r arolygon barn yn dweud wrthym mai'r dychweliad at drafnidiaeth gyhoeddus yw pryder Rhif 1 i bobl mewn perthynas â llacio'r cyfyngiadau symud, gyda 78 y cant o bobl yn dweud eu bod yn poeni. Cyfunwch hyn â 90 y cant yn llai o deithiau bws yn cael eu gwneud, ac rydym mewn man anodd iawn.
Mae'r cynllun argyfwng ar gyfer bysiau sydd newydd ei gyhoeddi i'w groesawu'n fawr, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld y bydd ymgysylltiad ynghylch cynllunio llwybrau yn orfodol cyn gallu derbyn y cyllid. Rhaid i hyn sicrhau bod cysylltiadau cymdeithasol hanfodol yn cael eu cynnal, ac nid y teithiau mwyaf poblogaidd yn unig. Os yw'r pandemig wedi cynyddu anghydraddoldeb, rhaid inni weld adfer fel sbardun i gyfleoedd ar gyfer ein cymunedau tlotaf. Nid yw'r ddadl hon am gydraddoldeb a chyfle yn gyfyngedig i deithwyr; mae'n bwysig i yrwyr bysiau hefyd. Mae ffigurau gan Swyddfa Ystadegau Gwladol Cymru a Lloegr yn dangos cyfraddau marwolaeth cryn dipyn yn uwch yn gysylltiedig â COVID-19 ymhlith gyrwyr bysiau a choetsys. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod Sadiq Khan wedi cyhoeddi ymchwiliad penodol i'r mater yn Llundain.
Felly, daw hyn â mi at yr ail bwynt heddiw, sef gorchuddion wyneb gorfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd pawb yn y Senedd yn gwybod fy mod wedi cefnogi'r ymagwedd ragofalus a gymerwyd yng Nghymru tuag at lacio'r cyfyngiadau, ac felly rwy'n ei chael hi'n anodd cyfiawnhau'r hyn sydd i'w weld fel anghysondeb yn ein dull o weithredu. Yn yr Alban, pan gyhoeddwyd bod gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol, cafodd gefnogaeth gyffredinol gan weithredwyr, undebau llafur a grwpiau teithwyr. Dywedodd eu corff gwarchod annibynnol, Transport Focus, yn ddiflewyn-ar-dafod,
Mae pobl sy'n ystyried dychwelyd at drafnidiaeth gyhoeddus wedi dweud wrthym eu bod am i bob teithiwr ddefnyddio gorchuddion wyneb.
Mae hon yn agwedd y credaf y bydd yn cael ei hefelychu yng Nghymru, lle dywedodd 81 y cant o'r bobl a holwyd fis diwethaf eu bod yn cefnogi gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau dan do a rennir. Mae'r neges i'w gweld yn glir i mi: os ydym am i bobl ddychwelyd yn ddiogel at drafnidiaeth gyhoeddus, rhaid inni wneud gorchuddion wyneb yn orfodol. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi dweud y bydd gwisgo masgiau yn rhoi mwy o ddiogelwch i'r cyhoedd ac yn bwysig, bydd yn diogelu bywydau'r staff sy'n gweithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, sydd, fel y mae'r dystiolaeth yn awgrymu, yn wynebu mwy o risg o haint. Mae gwybodaeth a roddwyd i mi gan undeb Unite, sy'n cynrychioli gyrwyr ledled Cymru, yn dangos y problemau y mae eu haelodau'n eu hwynebu'n feunyddiol oherwydd y canllawiau presennol. Mae hyn yn arbennig o ddifrifol ar wasanaethau trawsffiniol, gyda theithwyr yn dod ar fysiau heb fasgiau ac yna'n cael dadleuon gyda theithwyr eraill ar y naill ochr neu'r llall i'r ffin sy'n gwisgo masgiau. Nawr, yr unig ffordd i ddatrys y dadleuon hynny pan fyddant yn digwydd yw i'r gyrrwr adael eu sedd, gan eu gwneud yn fwy agored eto i ddal COVID-19.
Gan mai un o'r rhesymau dros beidio â dilyn y trywydd gorfodol yw'r diffyg awydd i ofyn i staff trafnidiaeth blismona'r mesurau hyn, mae'n ymddangos bod y canllawiau presennol yn gwneud iddynt wneud hynny beth bynnag, ond heb eglurder deddf Gymreig i'w cefnogi. Rwyf wedi edrych ar yr hyn y mae'r prif swyddog meddygol wedi dweud am hyn, rwyf wedi edrych ar ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac rwyf wedi darllen y nodyn gan y grŵp cyngor technegol, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad yw'n glir o gwbl i mi pam nad ydym yn dilyn llwybr gorfodol. A gaf fi ofyn felly i'r Gweinidog gyhoeddi cyfrif manylach o nodyn y grŵp cyngor technegol? Mae'r nodyn a luniwyd o'r drafodaeth honno'n amwys ac yn ddi-fudd i'r rheini ohonom sydd am ddeall penderfyniadau'r Llywodraeth. Lle mae'r Llywodraeth yn dyfynnu, er enghraifft, y gallai gwisgo gorchuddion wyneb beri i bobl beidio â dilyn mesurau diogelwch eraill pwysicach, byddai o fudd i'r drafodaeth hon ein bod yn gwybod yn union o ble y daw'r dystiolaeth honno a'r hyn y mae'n ei ddweud yn fanwl. Mae'n ymddangos i mi mai mater o gyfleu neges gyhoeddus yw hyn, ac os yw'r Llywodraeth yn cael hynny'n iawn, gallwn fabwysiadu'r hyn y mae'r undebau llafur yn galw amdano—ymagwedd yn seiliedig ar synnwyr cyffredin sy'n diogelu gyrwyr ac sydd o fudd i deithwyr fel ei gilydd. Diolch.