Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw. Rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar ddiffyg cymorth digonol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bysiau, yn hanesyddol ac yn ystod y pandemig COVID-19. Ac rwy'n falch, fel y dywedodd Darren Millar, Ddirprwy Lywydd, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun argyfwng ar gyfer bysiau cyn gynted ag y cafodd y cynnig hwn ei gyflwyno—mae hi bob amser yn dda pan fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru.
Fe roddaf rywfaint o gyd-destun a chefndir i fy nghyfraniad o safbwynt y diffyg cefnogaeth i'r diwydiant bysiau. Mae nifer y siwrneiau gan deithwyr bws yng Nghymru wedi gostwng ers datganoli tra bod nifer y ceir ar ein ffyrdd wedi cynyddu. Meddai Simon Jeffrey o'r felin drafod Centre for Cities, ac mae hwn yn ddyfyniad gwirioneddol dda sy'n crynhoi'r mater hwn mor dda:
Mae trafnidiaeth wael yn rhoi pobl mewn ceir, sy'n arafu bysiau, yn gwthio eu costau i fyny, gan eu gwneud yn llai dibynadwy ac mae pobl yn rhoi'r gorau i'w defnyddio.
A dyna oedd casgliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, fwy neu lai, pan adroddasom ar y mater hwn rai blynyddoedd yn ôl—yr angen i dorri'r cylch hwn. Ddirprwy Lywydd, ni all y tueddiad barhau. Os ydym am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi'i ddatgan, mae angen inni fynd i'r afael â'r mater hwn.
Ac wrth gwrs, mae torri llwybrau'n effeithio'n anghymesur ar bobl hŷn, gan arwain at fwy o unigrwydd ac arwahanrwydd. Ac wrth gwrs, gyda phobl iau, mae'n atal pobl iau rhag teithio i ac o ganolfannau addysgol. Felly, mae'n eu hatal rhag manteisio ar addysg bellach. Mae hynny'n broblem yn y Gymru wledig ac mewn ardaloedd lled-wledig yng Nghymru. Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn gwbl groes i strategaeth Llywodraeth Cymru ei hun, 'Ffyniant i Bawb'. Felly, mae'n rhaid i'r Llywodraeth symud oddi wrth y rhethreg a dechrau cefnogi'r diwydiant hwn.
Gan droi at y pandemig, rwy'n croesawu'r £29 miliwn, mae'r diwydiant yn croesawu'r £29 miliwn a gyhoeddodd y Llywodraeth ar 31 Mawrth, ond gadewch inni fod yn glir, nid arian newydd oedd hwnnw. Hefyd, dim ond am dri mis y parhaodd yr arian hwnnw, ac mae'r tri mis wedi mynd heibio erbyn hyn. Felly, Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd heb ddarparu arian ychwanegol ar gyfer cefnogi'r diwydiant. Mae taer angen i Lywodraeth Cymru gynyddu'r cyllid a sicrhau bod y gweithredwyr bysiau presennol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i oroesi'r pwysau ariannol a digynsail sydd arnynt.
Ni allaf siarad yn y ddadl hon heb siarad am lwybr bws 72 yn fy etholaeth i, sy'n cynorthwyo pobl yn Llanfyllin a Llansanffraid i gyrraedd Croesoswallt, i siopa ac ar gyfer apwyntiadau iechyd. Diddymwyd y gwasanaeth hwnnw ychydig wythnosau'n ôl. Nid oes gan y bobl hyn sy'n defnyddio'r gwasanaeth eu cludiant eu hunain—mae'n wasanaeth hollol hanfodol. Ni allai'r gweithredwr barhau'r gwasanaeth am nad oedd yn hyfyw yn ariannol. Felly, rwy'n gweithio gyda'r Cynghorwyr Peter Lewis a Gwynfor Thomas a chynghorau cymuned lleol i ddod o hyd i ateb, ond mae'n anhygoel o anodd heb gefnogaeth y Llywodraeth. Dywedodd y cydffederasiwn cludiant yn ddiweddar wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod angen £5.2 miliwn y mis i gael gwasanaethau i fyny i 100 y cant oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol. Fel arall, ni fydd gwasanaethau bysiau yn gynaliadwy.
Nawr, gan droi at y cynllun argyfwng ar gyfer bysiau, rwy'n croesawu'n fras y ffaith bod y Llywodraeth wedi creu'r cynllun hwn, ond fel y dywedodd Darren Millar a Helen Mary Jones, ni ddaeth manylion ariannol gyda'r cynllun. Hefyd, ni cheir manylion ynglŷn â sut y gellir dosbarthu'r arian. Felly, mae gennyf nifer o gwestiynau yma i'r Dirprwy Weinidog: faint o arian a ddyrennir yn y tymor byr? A fydd yn gymesur â maint busnes? Y tu hwnt i'r cyfnod argyfwng, sut olwg fydd ar y systemau ariannu newydd a'r dull partneriaeth ar gyfer y diwydiant bysiau yn hirdymor? Beth fydd y cyhoeddiad hwn yn ei olygu i'r Bil bysiau? A fydd yn cael ei roi o'r neilltu yn gyfan gwbl yn awr? Ac a yw Llywodraeth Cymru bellach yn gallu darparu'r eglurder sydd ei angen ar y diwydiant ynglŷn â'r cymorth ariannol amlflwydd parhaus i'r gwasanaethau bysiau allu gweithredu tra bod masnachu'n dal i fod wedi'i gyfyngu? Mae'r diffyg manylder ar gyfer y cyllid hirdymor sy'n gysylltiedig â'r cynllun argyfwng ar gyfer bysiau yn bryder gwirioneddol. Felly, cymaint o gwestiynau, Ddirprwy Lywydd, a hyd yma, o leiaf, ychydig iawn o atebion manwl gan y Llywodraeth.
Wrth i mi ddod i ben, yr hyn y credaf y mae angen i'r Gweinidog ei wneud yn awr—a hyn er mwyn bod yn gadarnhaol ac yn adeiladol—gyda pheth brys, yw cyflwyno tasglu i ailfeddwl, ail-lunio ac ailddechrau gwasanaethau bysiau lleol a'r modd y maent yn gweithredu yng Nghymru ar ôl y pandemig, o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gyda mewnbwn gan Trafnidiaeth Cymru, y diwydiant ac awdurdodau lleol. Rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn ystyried yr awgrym hwnnw o ddifrif, ac rwy'n mawr obeithio y bydd yn gallu ateb rhai o'r cwestiynau a ofynnais yn fy nghyfraniad. Diolch.