10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: COVID-19 a Thrafnidiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:34 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:34, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y mae ein cynnig yn ei argymell, dylai'r Senedd Gymreig hon resynu at

'fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws' a galwn ar Lywodraeth Cymru i

'[f]ynd ati ar frys i adolygu a chynyddu'r cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er mwyn eu galluogi i gynyddu amlder a chapasiti gwasanaethau bysiau i bobl Cymru'.

Mae nifer y cerbydau bysiau a choetsys yng Nghymru wedi gostwng 10 y cant mewn pum mlynedd, a bron 20 y cant dros y degawd diwethaf. Er bod datganiad ysgrifenedig gan Ken Skates, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth, ar 31 Mawrth yn manylu ar gymorth cychwynnol o £69 miliwn ar gyfer gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd, dim ond y cyllid arferol a delir ymlaen llaw yw hwn, nid arian newydd. Dri mis yn ddiweddarach, ni fu unrhyw wybodaeth newydd o hyd ar gyllid arbennig ar gyfer llwybrau bysiau, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Llywodraeth y DU, a gyhoeddodd, ar 3 Ebrill, £397 miliwn ar gyfer gwasanaethau bysiau Lloegr i ymdopi â'r pandemig, gan gynnwys £167 miliwn o arian newydd dros 12 wythnos, ac yn wahanol hefyd i Lywodraeth yr Alban, a gyhoeddodd £46.7 miliwn o wariant ychwanegol ar 19 Mehefin i gynorthwyo gweithredwyr bysiau i gynyddu gwasanaethau bws dros yr wyth wythnos nesaf. Ar 24 Mehefin, ysgrifennodd Bysiau Arriva Cymru ataf ynglŷn ag effaith sylweddol cadw pellter cymdeithasol ar gapasiti bysiau, gan ychwanegu, heb gymorth ariannol ychwanegol, yn debyg i'r grant cymorth i wasanaethau bysiau COVID-19 sydd ar waith ledled Lloegr, na all gweithredwyr bysiau weithredu'r lefelau gwasanaeth annigonol presennol ledled Cymru ar sail ariannol gynaliadwy, heb sôn am gynyddu lefelau gwasanaethau i 100 y cant o'r lefelau cyn yr argyfwng i ddarparu capasiti hanfodol ar draws y rhwydwaith bysiau.