Part of the debate – Senedd Cymru am 7:14 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gynnig y gwelliant yn fy enw i yn y grŵp hwn, gwelliant 3. Byddwn hefyd yn cefnogi'r gwelliant cyntaf y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno heddiw, ond ni fyddwn yn cefnogi'r ail welliant gan Blaid Cymru, ac fe wnaf egluro pam. Gallwn fod yn hynod o Churchillaidd a cheisio apelio ar feinciau'r Llywodraeth i gefnogi ein gwelliannau gerbron y Siambr heddiw, ond rwy'n tybio fy mod yn cofio o'r cyfnod pwyllgor mai ychydig iawn o lwc a gawsom. Ond rwy'n credu eu bod yn werth eu gosod yng Nghyfnod 3, yn enwedig y gallu i sicrhau na ellid troi ymarferion hyfforddi a wneir gydag anifeiliaid syrcas yn ffynhonnell incwm drwy ffi i syrcasau. Oherwydd, ar hyn o bryd, mae bwlch yn y Ddeddf, fel y tystiodd gwybodaeth a roddwyd i ni yn y cyfnod pwyllgor, Cyfnod 1, gan amrywiol sefydliadau a ddywedai, 'Byddai'r ddeddfwriaeth hon yn atal anifeiliaid rhag cael eu harddangos yn y cylch at ddibenion adloniant', ond roedd perygl y gallai anifeiliaid ddal i deithio gyda'r syrcas honno i Gymru a mynd drwy drefn hyfforddi y tu allan i gylch y syrcas yn y pen draw a allai greu incwm drwy ffi i'r syrcas—i berchnogion ac arddangoswyr syrcas.
Fel y dywedodd Llyr, llefarydd Plaid Cymru, mae hwn wedi cael ei daflu o gwmpas yn awr ers 2006, gyda'r datganiad barn cyntaf. Does bosibl nad yw'n gwneud synnwyr, os ydym yn mynd i roi deddfwriaeth drwy Senedd Cymru, ein bod yn ceisio cau unrhyw fylchau a nodwyd yn y dystiolaeth arbenigol a gawsom yn y pwyllgor. Ac felly rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu cefnogi gwelliant 3 yn y grŵp penodol hwn, oherwydd nid yw'n ceisio trawsnewid y Bil, mae'n ceisio gwella'r Bil a chau unrhyw fylchau a allai, yn y dyfodol, gynnig ffrwd incwm i berchnogion syrcas pan fyddant yn dod i Gymru gyda'r anifeiliaid y gallent fod yn eu cludo gyda hwy. Mae'n ymddangos yn ymarfer cwbl resymegol i wneud hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymatal rhag gwrthwynebu'r gwelliant penodol hwn, gan ei fod wedi'i seilio ar y dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor.
Ni fyddwn yn cefnogi'r ail welliant y mae Plaid Cymru wedi'i gyflwyno, eto am fod y dystiolaeth yn dangos yn glir fod angen cyfnod pontio, o'r adeg y dôi'r ddeddfwriaeth i rym, er mwyn i berchnogion syrcas ddod o hyd i gartrefi addas ar gyfer yr anifeiliaid hyn, yr anifeiliaid gwyllt hyn, y bydd angen rhoi sylw i ystyriaethau ynglŷn â'u lles yn y pen draw. Ac unwaith eto, cafwyd tystiolaeth o hynny yng Nghyfnod 1. Gallaf gydymdeimlo â Llyr pan fo'n gwneud y pwynt y byddai'n well ceisio ei wneud cyn gynted ag sy'n bosibl, ond y gwir amdani yw ein bod yn sôn am anifeiliaid byw ac mae yna ystyriaethau lles yn gysylltiedig â hynny, a phan ddaw'r ddeddfwriaeth hon i rym, bydd angen iddi roi lle i anadlu er mwyn ei gwneud hi'n bosibl dod o hyd i gartref addas ar eu cyfer yn y dyfodol. A dyna pam na fyddwn yn cefnogi'r gwelliant hwnnw. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 3 a galwaf ar Senedd Cymru i gefnogi gwelliant 3, sy'n sefyll yn fy enw i, yn y grŵp hwn.