Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:39 am ar 8 Gorffennaf 2020.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a 13 undeb iechyd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Lloegr, fel y’i gelwir bellach, i ofyn am drafodaethau ynglŷn â chodiad cyflog cynnar ar gyfer y GIG. A wnewch chi arwain y ffordd a gwobrwyo staff ein GIG ni hefyd? Os yw'r argyfwng iechyd presennol wedi dysgu unrhyw beth inni, dylai gwerthfawrogi'r rheini sy'n gofalu amdanom ar bob adeg o ddechrau ein bywyd hyd ddiwedd ein hoes fod yn flaenoriaeth i unrhyw genedl ofalgar. Yn ystod eich cais am yr arweinyddiaeth, Brif Weinidog, fe ddywedoch chi na fyddech yn newid cyfraddau treth oni chaech eich gorfodi i wneud hynny. A ydych chi'n credu bellach fod gwaith caled gweithwyr iechyd a gofal yn ddigon o reswm i chi newid eich meddwl?