Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:40 am ar 8 Gorffennaf 2020.
Lywydd, byddwn yn parhau yn y ffordd y gwnawn, drwy ysbryd partneriaeth gymdeithasol, i drafod gyda'r undebau iechyd a'r byrddau iechyd lleol mewn perthynas â chyflog ac amodau yn y gwasanaeth iechyd. Dyna'r ffordd rydym yn gwneud hynny, a dyna'r ffordd rydym yn bwriadu parhau i wneud hynny. Nid yw'r trafodaethau hynny bob amser yn hawdd, ac ni ddylent fod yn hawdd. Nid yw partneriaeth gymdeithasol yn drefn gysurus, ond mae'n lle i ddod at ein gilydd i geisio dod o hyd i atebion cyffredin i broblemau cyffredin, a dyna sut y byddwn yn mynd i'r afael â mater cyflogau gyda staff ein GIG. Ymrwymodd fy mhlaid, Lywydd, i beidio â chodi cyfraddau treth incwm yn ystod tymor y Senedd hon. Dyna yw ein safbwynt polisi o hyd.