Ffactri Northwood Hygiene Products

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:58 am ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 11:58, 8 Gorffennaf 2020

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ar gyfer cau ffatri Northwood Hygiene Products i ben ar 4 Gorffennaf. Er gwaethaf ymdrechion y gweithwyr lleol a’r rheolwyr, cyngor sir Gwynedd a Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni wedi penderfynu bwrw ymlaen â’i gynlluniau i gau. Mae’r ymdrechion nawr yn mynd i ganolbwyntio ar gefnogi staff a chwilio am fuddsoddiad arall ar gyfer y safle.