1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2020.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ein diweddaru am drafodaethau’r Llywodraeth ynglyn a’r 94 swydd sydd dan fygythiad yn ffactri Northwood Hygiene Products ym Mhenygroes yn etholaeth Arfon? OQ55424
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ar gyfer cau ffatri Northwood Hygiene Products i ben ar 4 Gorffennaf. Er gwaethaf ymdrechion y gweithwyr lleol a’r rheolwyr, cyngor sir Gwynedd a Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni wedi penderfynu bwrw ymlaen â’i gynlluniau i gau. Mae’r ymdrechion nawr yn mynd i ganolbwyntio ar gefnogi staff a chwilio am fuddsoddiad arall ar gyfer y safle.
Buaswn i'n licio diolch i'ch Llywodraeth chi am fod mor barod i roi help ac i gefnogi'r cynnig amgen gan y gweithlu ym Mhenygroes, ond yn anffodus, fel rydych chi'n dweud, mae'r cwmni wedi gwrthod y cynnig hwnnw am resymau masnachol ac maen nhw'n bwrw ymlaen i ddiswyddo'r 94 gweithiwr, sydd yn ergyd anferth. Ond mae'n rhaid i ni ddal ati i ganfod defnydd arall ar gyfer y safle, felly diolch am roi sicrwydd y bydd swyddogion eich Llywodraeth chi'n parhau i weithio efo Cyngor Gwynedd ac eraill i edrych mewn i'r opsiynau, gan gynnwys denu prynwr newydd. Mae 94 swydd yn Nyffryn Nantlle yn gyfwerth â miloedd o swyddi mewn rhannau mwy poblog o Gymru ac yn haeddu'r un ymdrech a'r un sylw gan eich Llywodraeth chi wrth inni geisio ffordd ymlaen.
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Dwi'n cydnabod y pwynt yr oedd hi'n ei wneud am effaith colli 94 o swyddi mewn lle fel Nantlle, ac mae cau'r ffatri yn ergyd fawr i'r gweithlu ac i'r gymuned. Ac fel roedd Siân Gwenllian yn cydnabod, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd wedi gweithio'n galed i geisio gwarchod y swyddi, lan at roi arian ar y bwrdd i drio perswadio'r cwmni i aros gyda'r gweithwyr, sydd wedi bod yn ffyddlon i'r cwmni dros gyfnod hir. Nawr, fel roedd Siân Gwenllian yn dweud, mae'n rhaid inni feddwl gyda'n gilydd am sut rŷn ni'n gallu tynnu buddsoddiadau eraill ar gyfer y safle. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain partneriaeth adfer rhanbarthol sy'n cynnwys y cynghorau lleol, busnes a phartneriaid eraill i gynllunio ar gyfer dyfodol gogledd Cymru ar ôl COVID i gyd, ond hefyd yng nghyd-destun beth mae etholwyr Siân Gwenllian yn ei wynebu ar ôl y penderfyniad i gau y ffatri.