Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:59 am ar 8 Gorffennaf 2020.
Buaswn i'n licio diolch i'ch Llywodraeth chi am fod mor barod i roi help ac i gefnogi'r cynnig amgen gan y gweithlu ym Mhenygroes, ond yn anffodus, fel rydych chi'n dweud, mae'r cwmni wedi gwrthod y cynnig hwnnw am resymau masnachol ac maen nhw'n bwrw ymlaen i ddiswyddo'r 94 gweithiwr, sydd yn ergyd anferth. Ond mae'n rhaid i ni ddal ati i ganfod defnydd arall ar gyfer y safle, felly diolch am roi sicrwydd y bydd swyddogion eich Llywodraeth chi'n parhau i weithio efo Cyngor Gwynedd ac eraill i edrych mewn i'r opsiynau, gan gynnwys denu prynwr newydd. Mae 94 swydd yn Nyffryn Nantlle yn gyfwerth â miloedd o swyddi mewn rhannau mwy poblog o Gymru ac yn haeddu'r un ymdrech a'r un sylw gan eich Llywodraeth chi wrth inni geisio ffordd ymlaen.