2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 12:13 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 12:13, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, byddwch wedi gweld adroddiadau yn y wasg heddiw fod Llywodraeth y DU yn bwriadu diddymu cynllun parcio am ddim y GIG a gyflwynwyd ganddynt yn Lloegr ar ddechrau argyfwng y coronafeirws. A all y Gweinidog gadarnhau heddiw, er mwyn osgoi'r angen am ddatganiad, nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i newid ei hymrwymiad hirsefydlog i ddarparu parcio am ddim i staff, cleifion ac ymwelwyr yn lleoliadau GIG yng Nghymru?