Part of the debate – Senedd Cymru am 12:14 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Rwy'n hapus iawn i ddarparu'r sicrwydd hwnnw nad oes gennym unrhyw gynlluniau o gwbl i newid ein hymrwymiad i ddarparu parcio am ddim i staff, ymwelwyr a chleifion mewn ysbytai yma yng Nghymru, a oedd, wrth gwrs, yn bolisi a gyflwynasom yn ôl yn 2008. Rydym yn awyddus iawn i weld y polisi hwnnw'n parhau.