Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 12:56 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Weinidog, rhaid inni sicrhau bod ein targedau addysg iaith Gymraeg uchelgeisiol ym Merthyr Tudful, ac ar draws Cymru, yn cael eu cyflawni, ac mae'n bwysig bod buddion addysg yn Gymraeg yn cael eu rhoi i'n holl blant ym mhob cymuned. A allaf ofyn, felly, a fydd y Gweinidog yn rhoi cefnogaeth bellach i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, gan fod datblygiad tir pwysig wedi cwympo drwodd gan effeithio'n sylweddol ar eu cynlluniau? Efallai y bydd angen tipyn bach mwy o help i gyflawni ein targedau uchelgeisiol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan weithio hefyd gyda grwpiau fel Rhieni dros Addysg Gymraeg Pen-y-bont.