Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 12:57 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch am hynny, Huw. A gaf fi roi sicrwydd i’r Aelodau ein bod wedi datblygu dangosfwrdd i roi trosolwg o'r sefyllfa ar draws yr holl awdurdodau lleol yn dilyn COVID-19, ac mae'r dangosfwrdd yn nodi bod awdurdodau lleol ar y trywydd iawn i gyflawni targedau eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Yn amlwg, os oes pryderon ynghylch gallu awdurdod lleol unigol i gyflawni'r targedau sydd wedi'u cynnwys yn eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg, bydd ein swyddogion yn awyddus i gael sgwrs gyda hwy i ddeall beth yw'r rhwystrau i gyflawni'r nodau yn y cynlluniau hynny.