Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch, Weinidog. Mae fy mhryderon dybryd am ganlyniadau anfwriadol y cyfyngiadau symud wedi’u cofnodi eisoes. Mae'r ffaith bod yr un pwnc wedi codi fwy nag unwaith heddiw yn dyst i'r straeon y mae pawb ohonom, heb os, yn eu clywed am apwyntiadau cemotherapi wedi'u gohirio neu eu canslo, am apwyntiadau meddygol wedi'u gohirio neu eu canslo a sgrinio nad yw’n digwydd. Rydych wedi bod yn awyddus i ddweud wrth y cyhoedd fod y GIG yn agored i fusnes, pan ymddengys mai’r gwrthwyneb yw’r realiti, a dyma brofiad byw ein hetholwyr. Weinidog, a ydych chi'n cerdded i mewn i argyfwng iechyd sy’n mynd i fod yn fwy o faint ac yn fwy marwol yn nes ymlaen eleni? Diolch.