4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2020.
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19? OQ55406
Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, fod COVID-19 wedi cael effaith go iawn ar ofal nad yw'n ofal COVID-19 yng ngogledd Cymru ac ar draws y wlad gyfan, ac mae cleifion yn aros am apwyntiadau a thriniaeth. Fodd bynnag, yn ogystal ag ysbytai’n gohirio apwyntiadau, fel y trafodwyd gennym yn gynharach, rwy'n ymwybodol fod rhai cleifion wedi dewis gohirio eu hapwyntiadau yn ystod y pandemig. Bydd cyflwyno mwy o weithgaredd y GIG yn gynyddol yn darparu mwy o ofal nad yw’n ofal COVID ledled Cymru.
Diolch, Weinidog. Mae fy mhryderon dybryd am ganlyniadau anfwriadol y cyfyngiadau symud wedi’u cofnodi eisoes. Mae'r ffaith bod yr un pwnc wedi codi fwy nag unwaith heddiw yn dyst i'r straeon y mae pawb ohonom, heb os, yn eu clywed am apwyntiadau cemotherapi wedi'u gohirio neu eu canslo, am apwyntiadau meddygol wedi'u gohirio neu eu canslo a sgrinio nad yw’n digwydd. Rydych wedi bod yn awyddus i ddweud wrth y cyhoedd fod y GIG yn agored i fusnes, pan ymddengys mai’r gwrthwyneb yw’r realiti, a dyma brofiad byw ein hetholwyr. Weinidog, a ydych chi'n cerdded i mewn i argyfwng iechyd sy’n mynd i fod yn fwy o faint ac yn fwy marwol yn nes ymlaen eleni? Diolch.
Wel, mae'r Prif Weinidog a minnau wedi cydnabod, nid yn unig heddiw ond yn rheolaidd, y pryder sydd gennym ynghylch yr ôl-groniad sylweddol sy'n cael ei greu yn lefelau galw ac angen y GIG. Rydym wedi siarad ar wahanol bwyntiau—mewn gwirionedd, ar gamau cynnar yn ystod y pandemig—am y pryder fod rhai pobl yn dewis peidio â dod i mewn i gael triniaeth. Roedd un o'r pwyntiau cynharaf a wneuthum yn nodi’r gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn dod i gael triniaeth ar gyfer strôc. Nid wyf yn credu bod hynny wedi digwydd oherwydd bod nifer yr achosion o strôc, o fewn nifer o wythnosau i osod y cyfyngiadau symud, wedi gostwng yn sydyn yng Nghymru. Y rheswm am hyn oedd bod pobl yn dewis peidio â dod i mewn. Dyna ran o anhawster yr hyn sydd angen inni ei wneud i ailbeiriannu ein gwasanaeth yn gynyddol. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi amlinellu, mae yna gynlluniau ar waith i gael parthau gwyrdd, os mynnwch, lle maent yn rhydd o COVID neu heb fawr o berygl COVID, a pharthau coch, lle caiff pobl dan amheuaeth o fod â COVID eu trin. Ond mae angen i ni ennyn digon o hyder i bobl ddefnyddio'r gwasanaeth.
Nid mater o fod yn ddoeth ar ôl y digwyddiad yw hyn. Gwyddom fod nifer y marwolaethau ychwanegol yng Nghymru yn fwy na 2,000 ers dechrau cyfnod y pandemig. Pe na baem wedi rhoi camau ar waith, gallwn fod yn dra hyderus y byddem wedi gweld mwy o farwolaethau. Felly, ein her yw sut y gallwn gydbwyso'r mathau gwahanol o niwed, y gwahanol heriau, y mae’r cyfyngiadau symud yn eu creu, gan eu llacio a chael ein hunain yn barod ar gyfer yr hyn a allai ddigwydd dros yr hydref a'r gaeaf. Ond yn sicr, nid yw’r Llywodraeth na’r gwasanaeth iechyd gwladol yn llaesu dwylo.
Ar ôl i chi gyhoeddi bod byrddau iechyd yn edrych ar sut y gallant ailgychwyn llawdriniaethau a gwasanaethau canser wedi'u cynllunio y GIG, cefais e-bost gan etholwr yn dweud, 'Ceisiwch ddweud hynny wrth fy ffrind, sydd â thiwmor ar ei aren ac y gohiriwyd ei lawdriniaeth, ac wrth fy ngwraig, sydd â chwydd o dan ei braich ac o dan ei chlust, i lawr at ran uchaf ei bron—dim pelydr-x na sgan, a chanslwyd ei sesiwn ffisiotherapi gyntaf'. Ar 17 Mehefin, fe ddywedoch chi fod GIG Cymru yn parhau i ddarparu triniaeth frys a diagnosteg ar gyfer achosion lle ceir amheuaeth o ganser. Derbyniodd etholwr lythyr gan y bwrdd iechyd heddiw yn nodi, 'Oherwydd sefyllfa gofal iechyd COVID-19, gallai fod angen i chi aros am gyfnod sylweddol i gael archwiliadau', ac mae hi'n ofni y gallai fod ganddi ganser. A welodd y Gweinidog y rhaglen Panorama yr wythnos hon, yn rhybuddio y gallem weld 35,000 o farwolaethau canser ledled y DU o ganlyniad anuniongyrchol i'r pandemig presennol? A oes ganddo ffigur ar gyfer Cymru? Pa gamau ychwanegol y bydd GIG Cymru yn eu cymryd yn awr i leihau'r nifer hon?
Wel, yn amlwg, fel y gŵyr yr Aelod, nid wyf mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar y pryderon unigol y mae'n eu nodi, ac rwy'n siŵr y bydd yn codi'r rheini gyda'r bwrdd iechyd sy'n darparu’r driniaeth. Mater o ffaith, nid barn, yw ein bod yn ailgychwyn gwasanaethau'r GIG a bod gofal canser brys wedi bod ar gael ers y cychwyn. Fodd bynnag, bydd yna adegau pan fydd materion gweithredol, megis pobl yn ynysu os ydynt wedi cael prawf positif, neu eu cyd-destun wedi effeithio ar rannau unigol o'n gwasanaeth. Rydym yn ceisio trin mwy o bobl yn gynyddol a rhoi hyder, fel rwy’n dweud, i bobl ddod i mewn i'r gwasanaeth.
O ran marwolaethau ychwanegol o ganser, a chyflyrau eraill hefyd, fel y dywedais, unwaith eto, rwy'n wirioneddol bryderus, ac wedi bod ers misoedd, fel y gwyddoch o'r Cofnod, fod yr effaith ar driniaethau’n golygu y byddwn yn cael gwahanol ganlyniadau a niwed wedi'i achosi mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n rhan o'r hyn sydd wedi gwneud ein tasg, fel Llywodraeth a gwasanaeth iechyd sy'n gweithio ar gyfer pobl Cymru, mor anhygoel o anodd, ond rwy'n hyderus ein bod yn gwneud y peth iawn wrth ailgychwyn gweithgaredd a bydd mwy o fywydau'n cael eu hachub o ganlyniad i hynny.