Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch am y cwestiwn yna, Siân. Mae gyda ni gronfa cadernid economaidd yn barod o fewn Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cymorth busnes sydd gyda'r mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig. Ond rydym ni hefyd yn ymwybodol drwy'r trafodaethau cyson gyda'r sectorau, gan gynnwys y celfyddydau a diwylliant, beth yw'r heriau tymor hir y bydd angen cymorth ychwanegol.