Part of 5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
O'r diwedd, fe ddaeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog diwylliant yn Lloegr am arian i'r celfyddydau yng Nghymru. Mae'n rhwystredig gorfod disgwyl am gyhoeddiadau fel hyn cyn y caiff Llywodraeth Cymru weithredu. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny. A wnewch chi symud ymlaen yn ddioed i sefydlu tasglu, i gynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector, er mwyn sicrhau cynllun gweithredu i achub y celfyddydau? Mae hi'n argyfwng arnyn nhw. Mae angen i'r cynllun sicrhau cefnogaeth i bob rhan o'r sector, o'r canolfannau a'r theatrau i'r miloedd o weithwyr llawrydd sydd yn rhan annatod o ecoleg y celfyddydau yng Nghymru.