6. Datganiad gan y Weinidog Addysg: Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:31, 8 Gorffennaf 2020

Yn sicr, mae cyhoeddi'r Bil drafft yn garreg filltir bwysig ac, fel dywedodd y comisiynydd plant yr wythnos yma, mae'n rhaid inni edrych ar y cwricwlwm newydd fel addewid i bob plentyn yng Nghymru, ac, wrth greu'r addewid yma, mae yna ddyletswydd ar bob un ohonom ni yn y Senedd yma i graffu ar y ddeddfwriaeth newydd yn ofalus iawn er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol ac er mwyn gwneud yn siŵr bod y nod sydd yn cael ei grisialu yn y cwricwlwm yn mynd i gael ei gyrraedd.

O ran gweithredu ac amserlen gweithredu’r cwricwlwm, dwi'n gallu gweld eich dadl chi fod yna rai elfennau o'r cwricwlwm, rhai elfennau sydd yn barod yn dechrau gwreiddio yn ein hysgolion ni, sy'n berthnasol iawn yn sgil yr argyfwng COVID.

Dwi yn falch o weld lle blaenllaw i iechyd a llesiant fel maes dysgu a phrofiad, ond dydy o ddim yn mynd i fod yn elfen fandadol na gofynnol o'r ddeddfwriaeth. Mae'r comisiynydd plant yn dadlau yr wythnos yma fod angen i'r Bil hwn fynd ymhellach nag y mae o i ddiogelu llesiant plant drwy sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gwneud agwedd ysgol gyfan ar lesiant ac iechyd meddwl yn ofynnol drwy'r ddeddf. 

Rydych chi eisoes wedi cyhoeddi datganiad arall heddiw ynglŷn â'r ymgynghoriad ynglŷn â fframwaith o ganllawiau ar wreiddio'r dull ysgol gyfan ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol, ac rydych chi'n dweud yn y datganiad hwnnw mai pwrpas y fframwaith ydy hyrwyddo cysondeb a chydraddoldeb. Felly, pam na wnewch chi ddim mynd y cam ymhellach yma rŵan y mae'r comisiynydd plant, er enghraifft, ac eraill, yn galw amdano fo, sef gwneud iechyd meddwl a llesiant yn ofyniad yn y ddeddf, yn ofynnol yn y ddeddf?

Ac mae'r elfen yma ynglŷn â gwneud rhai materion yn fandadol, ac eraill, sydd hefyd yn haeddu'r un lefel o ofyniad deddfwriaethol, yn cael eu neilltuo o'r ddeddfwriaeth. Rydym ni wedi cychwyn y drafodaeth yma yr wythnos diwethaf yn ystod dadl Plaid Cymru, a dwi'n meddwl bydd hon yn rhywbeth byddwn ni'n dod yn ôl ati hi yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd yma dros yr wythnosau nesaf yma. 

Mae rhai pynciau yn fandadol, ac mae yna rai materion croes-gwricwlaidd yn fandadol hefyd. Felly, hoffwn i ofyn: beth ydy'r meini prawf rydych chi wedi eu defnyddio cyn gwneud y penderfyniadau yma, cyn penderfynu? Pa feini prawf sydd tu ôl i'r penderfyniadau i gynnwys rhai pethau yn fandadol ac i beidio â chynnwys materion eraill?

Ac, yn olaf, dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod angen tystiolaethu'r angen am ddeddfwriaeth newydd cyn ei chyflwyno. Mae hon yn thema drwy'n gwaith ni yma yn y Senedd o ran cyflwyno unrhyw fath o ddeddfwriaeth newydd: mae angen dangos pam fod ei angen hi. Dwi'n cyd-fynd efo chi: mae angen deddfwriaeth er mwyn gwreiddio cwricwlwm newydd yn ein hysgolion ni. Ond, i jest droi at un agwedd, pa dystiolaeth addysgol sydd gennych chi bod angen gwneud y Saesneg yn elfen orfodol o'r cwricwlwm—pa dystiolaeth—ac oes yna unrhyw gorff neu arbenigwr addysgol neu fel arall wedi argymell i chi gynnwys hyn ar wyneb y Bil?