Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
A gaf fi ddiolch i Siân Gwenllian? Ac a gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'n fawr y broses sydd gennym yn awr o ran craffu? Bûm yn y Siambr hon yn ddigon hir, ar yr ochr acw i'r tŷ ac ar yr ochr hon i'r tŷ, i wybod proses mor werthfawr yw proses graffu'r Senedd hon a sut, yn aml, y mae deddfwriaeth yn gryfach ac yn well o ganlyniad i hynny. Dyna'r holl bwynt pam y mae llawer ohonom wedi neilltuo degawdau sylweddol o'n bywydau fel oedolion yn ymgyrchu dros Senedd. Ac felly, mae'r broses graffu honno yn un y dylai Gweinidogion ei chroesawu; nid yw bob amser yn gyfforddus, ond yn sicr mae'n rhan bwysig o'n democratiaeth, onid yw? Ac rwy'n siŵr y ceir cyfleoedd gwerthfawr iawn drwy gydol taith y Bil i brofi ac i herio a lle bo angen, i wella. Nid wyf yn credu bod yna Fil erioed wedi mynd drwy'r Senedd nad yw wedi bod yn well o ganlyniad i'r broses honno, y broses seneddol.
O ran iechyd a lles, wel, dyma un o'r datblygiadau cyffrous o fewn y cwricwlwm, fod iechyd a lles yn un o'r meysydd dysgu a phrofiad y byddwn yn deddfu ar eu cyfer yn y Bil. Ac mae hynny'n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, iechyd corfforol ac iechyd meddwl a lles fel ei gilydd. A darperir yn dda ar gyfer pwysigrwydd iechyd meddwl o fewn y datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n sail i'r meysydd dysgu a phrofiad unigol. Felly, credaf ein bod wedi rhoi arwydd clir iawn o'r hyn rydym yn ei ddisgwyl o ran cyflawni maes dysgu a phrofiad iechyd a lles—ac mae gennych ddyletswydd i'w gyflawni—y bydd iechyd meddwl a llesiant, yn rhan bwysig o hynny.
A gaf fi ddiolch i Siân am dynnu sylw pawb at y datganiad ysgrifenedig arall sydd wedi mynd allan heddiw ar ddechrau ein hymgynghoriad ar ein dull ysgol gyfan a'r fframwaith i gefnogi ysgolion? Mae hynny'n ganlyniad uniongyrchol, unwaith eto, i graffu gan y Senedd hon a gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl a llesiant plant. Oherwydd, er y byddwn yn cytuno â hi fod lle i hynny fel pwnc o fewn y cwricwlwm, yr hyn y mae adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn sôn llawer amdano yw nad yw ein plant yn gallu cael iechyd meddwl a lles drwy ddysgu gwers amdano; mae'n rhaid inni greu'r amodau yn yr ysgol ei hun iddi allu bod yn amgylchedd iach. Felly, dylai pawb yn yr ysgol, amgylchedd yr ysgol, pawb sy'n gweithio yn yr ysgol honno, yr holl ethos sy'n sail i'r ysgol honno, fod yno i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Ac nid rhywbeth 'braf i'w gael' neu rywbeth ychydig yn anarferol yw hynny, oherwydd fe wyddom, heb iechyd meddwl da a lles, nad yw plant yn gallu dysgu; yn syml iawn, ni fyddant yn dysgu. Mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles plant a chreu amgylchedd lle maent yn hapus ac yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, neu fel arall ni fydd y dysgu mor llwyddiannus ag y byddem yn dymuno iddo fod.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ymateb i'r ymgynghoriad ac rwy'n gobeithio bod y fframwaith yn gwneud cyfiawnder â gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Mae digon o gyfle i'r cwricwlwm gefnogi iechyd meddwl a lles plant, ond mae'n rhaid iddo fod yn ein hysgolion fel rhywbeth sy'n fwy na dim ond elfen o'r cwricwlwm.
Nawr, wrth gwrs, rwy'n deall—mawredd, nid wyf yn credu bod diwrnod wedi mynd heibio ers i mi gael y swydd hon pan nad wyf wedi cael e-bost gan rywun sy'n frwdfrydig iawn, yn angerddol iawn, ynglŷn â pham y mae angen i'w pwnc fod ar wyneb y Bil. Ac nid wyf yn amau na all y bobl hynny i gyd wneud achos dilys iawn, ond pe baem yn gwneud hynny, byddem yn cyrraedd y fan lle rydym yn awr, Ddirprwy Lywydd, gyda chwricwlwm gorlawn, sy'n amhosibl ei reoli ac sydd wedi amddifadu'r proffesiwn o'i greadigrwydd, am ei fod wedi crebachu addysgu i fod yn ymarfer ticio blychau o bopeth y mae rhywun dros y blynyddoedd wedi penderfynu bod yn rhaid ei addysgu. A phob wythnos, bron, mae gennym stori sy'n dweud, 'Mae angen i hyn fod yn rhan o'r cwricwlwm', ac mae hynny wedi digwydd dros flynyddoedd lawer. Mae Gweinidogion sydd â bwriadau da, ac a oedd yn dymuno gwneud y peth iawn ac wedi cael eu cymell gan fwriadau clodwiw, wedi'i ychwanegu at y cwricwlwm—maent wedi'i ychwanegu at y cwricwlwm. Ac rydym wedi rhoi rhywbeth sy'n gwbl amhosibl ei reoli i ni ein hunain. Ac yn syml, drwy ei restru, nid yw hynny ynddo'i hun yn golygu y bydd honno'n wers o ansawdd a gyflwynir yn dda yn y maes penodol hwnnw.
Felly, yn gwbl briodol, yr her yw pam ein bod wedi canolbwyntio ar y pynciau sydd gennym ar wyneb y Bil. Wel, gobeithio na all neb yma anghytuno na ellir cwestiynu'r angen i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â llythrennedd a rhifedd ein plant. Dyma'r sgiliau sylfaenol y bydd eu hangen ar blant unigol pan fyddant yn gadael yr ysgol. Ac yn gynyddol—a mawredd, onid yw pob un ohonom wedi gorfod dysgu'n sydyn dros yr wythnosau diwethaf—cymhwysedd digidol yw'r drydedd elfen, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd. Ac efallai—. Rwy'n gobeithio na fydd byth yn digwydd, y bydd yn rhaid i'n plant reoli eu ffordd drwy bandemig, ond efallai y byddant yn ymdopi ychydig yn well nag y gwnaeth rhai ohonom, ac ni fydd galwadau 'Mae eich meic ar gau' neu 'Caewch eich meic' byth yn cael eu clywed eto os byddwn yn y sefyllfa honno eto. Felly, llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol—dyma'r pethau craidd sydd eu hangen ar ein plant pan fyddant yn gadael yr ysgol.
O ran yr hyn a elwid yn addysg grefyddol yn 'Dyfodol Llwyddiannus', yn y cwricwlwm newydd, mae'r enw'n newid i grefydd, gwerthoedd a moeseg i adlewyrchu ymrwymiad ac argymhelliad Graham Donaldson yn y ddogfen 'Dyfodol Llwyddiannus' wreiddiol, fel y mae Cymraeg, yr ychwanegiad—. Mae dau ychwanegiad uwchlaw a thu hwnt i hynny, sef yn gyntaf, addysg cydberthynas a rhywioldeb. A Siân, yn gwbl briodol, rydych chi wedi sôn am iechyd meddwl a lles plant. Mae ein cydberthynas ag eraill yn hanfodol i'n hiechyd a'n lles fel bodau dynol, onid yw? Mae'n gwbl sylfaenol, ac mae sicrhau bod ein plant yn gallu dysgu am hawliau, cyfrifoldebau, parch, amrywiaeth, diogelwch, fel y dywedais, cyfrifoldeb personol, i gael perthynas ddiogel ac iach ag eraill yn sylfaenol yn fy marn i. Ac roedd yn argymhelliad clir gan y grŵp arbenigol, dan gadeiryddiaeth Emma Reynolds, yr Athro Emma Reynolds, a sefydlais pan ddechreuais yn fy swydd.
Ac o ran y Saesneg, yn gyntaf oll, mae Saesneg ynddo'i hun yn bwnc pwysig iawn, a dyna'r hyn rydym yn sôn amdano, pwnc. Rwy'n meddwl weithiau—yn ddealladwy, nid wyf yn beirniadu—fod yna gamddealltwriaeth rhwng iaith yr addysg a chyfrwng yr addysgu yn hytrach na'r pwnc. Ac mae hyn yn adlewyrchu fy nghred ein bod am greu dinasyddion dwyieithog o'n holl ddinasyddion. Ond fel y dywedais, rwy'n cydnabod bod yna ddadl gref a bod yna ofn canlyniadau anfwriadol o ganlyniad i hynny, ac rwyf wedi ymrwymo wrth agor heddiw y byddwn yn cael trafodaethau parhaus.