Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Weinidog. Rwy'n credu bod rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â'r cwricwlwm newydd yn fy ngrŵp, ond rwy'n credu bod angerdd y Gweinidog wrth siarad—rydym am barhau i fod yn rhan o'r ddadl ac nid ydym, ar y cam hwn, wedi penderfynu ei wrthwynebu. Hoffem weld y Bil mewn mwy o fanylder a chael mwy o fudd o drafodaethau gyda'r Gweinidog.
Mae hi'n dweud ei bod eisiau system sy'n destun balchder ac sy'n mwynhau hyder y cyhoedd, ac rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â hynny. Rwyf hefyd yn meddwl nad yw'r syniad y gellid ei adolygu neu ei ailystyried 30 mlynedd ar ôl cwricwlwm 1988 yn y DU yn un y dylid ei ddiystyru mewn egwyddor. Mae hi'n cyfeirio at gwricwlwm sy'n ddi-os wedi'i wneud yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwnnw, a gaf fi ofyn ychydig am rôl yr Athro Donaldson, ac yn arbennig y newidiadau sydd wedi digwydd yng nghwricwlwm yr Alban nad ydynt wedi cael canmoliaeth unfryd, a beth oedd ei rôl gyda hynny a sut y mae'n wahanol, beth y bu'n ei wneud gyda chi, dros Gymru?
Rydych yn cyfeirio at bob ysgol yn cael cyfle i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm eu hunain. A gaf fi eglurhad: a yw hynny'n ofyniad ar gyfer pob ysgol yn ogystal â chyfle, neu a oes cwricwlwm cenedlaethol y gall yr ysgol ei gymryd a'i ddefnyddio, a bod gan athrawon fwy o ddisgresiwn wedyn ynglŷn â'r hyn y maent yn ei wneud o'i fewn? Neu a oes raid i bob ysgol ddilyn y broses hon, proses sylweddol iawn o bosibl, o ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain?
Rwy'n meddwl hefyd am y cydbwysedd rhwng y disgyblaethau traddodiadol a'r cysylltiadau rydych chi'n ceisio eu meithrin ar draws y meysydd dysgu a phrofiad—er enghraifft, iechyd a lles. Rwy'n sicr yn adnabod rhai rhieni ac yn sicr mae gan rai o fy ngrŵp bryderon ynghylch yr hyn a allai ddigwydd i drylwyredd addysgu'r disgyblaethau traddodiadol hynny o fewn y dull newydd. A allai roi rhyw sicrwydd ar hynny?
A gaf fi eglurhad hefyd: a yw hi'n dweud ei bod yn agored, o bosibl, i welliant yn ystod taith y Bil mewn perthynas ag a ddylai'r Saesneg fod yn elfen gwricwlaidd orfodol? Efallai fy mod wedi camddeall hyn, ond a yw Plaid Cymru yn dadlau o'u dadl flaenorol y dylai Cymraeg barhau'n ofyniad gorfodol ond y dylid dileu Saesneg oddi ar wyneb y Bil fel gofyniad gorfodol? Ai dyna yw'r cynnig mewn gwirionedd, ac os felly, a yw hynny'n rhywbeth y byddai'n ei ystyried o ddifrif?
Ac mae hi'n cyfeirio at blant yn gwybod eu hanes, eu democratiaeth a'u hamgylchedd eu hunain, ac rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno â hynny fel ymadrodd, ond mae'n gadael yn agored i ba raddau y mae'r hanes hwnnw, a democratiaeth yn arbennig, yn benodol Gymreig ac i ba raddau y mae'n brofiad Prydeinig cyffredin.
Mae'n cyfeirio at fwy o bobl yn astudio TGAU gwyddoniaeth, sy'n wych. Beth am ieithoedd tramor modern? A all y cwricwlwm newydd hwn fynd i'r afael â'r dirywiad yn y rhain?
Ac yn olaf, mae hi'n cyfeirio at gyhoeddi cod cynnydd gydag elfennau gorfodol. A allem ystyried tasgau asesu safonol wedi'u gosod yn annibynnol yn 11 oed yn rhan o hynny?